Llyfr Eseia 10:29
Aethant trwy y rhyd, yn Geba y lletyasant: dychrynodd Rama; Gibea Saul a ffoes. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
28Daeth at Aiath, tramwyodd i Migron; ym Michmas y rhoddes ei ddodrefn i gadw. º
30Bloeddia a’th lef, merch Galim: par ei chlywed hyd Lais, O Anathofh dlawd. º
Cross References
Joshua 18:25Gibeon, a Ramah, a Beeroth,
Judges 19:12A’i feistr a ddywedodd wrtho, Ni thrown ni i ddinas estron nid yw o feibion Israel; eithr nyni a awn hyd Gibea. º
1 Samuel 7:17A’i ddychwelfa ydoedd i Rama; canys yno yr oedd ei dŷ ef: yno hefyd y barnai efe Israel, ac yno yr adeiladodd efe allor i’r ARGLWYDD.
1 Samuel 13:2Saul a ddewisodd iddo dair mil o Israel; dwy fil oedd gyda Saul ym Michmas ac ym mynydd Bethel, a mil oedd gyda Jonathan yn Gibea Benjamin: a’r bobl eraill a anfonodd efe bawb i’w babell ei hun. º
1 Samuel 13:23A sefyllfa’r Philistiaid a aeth allan i fwlch Michmas.
1 Samuel 14:4A rhwng y bylchau, lle ceisiodd Jonathan fyned drosodd at amddiffynfa’r Philistiaid, yr oedd craig serth o’r naill du i’r bwlch, a chraig serth o’r tu arall i’r bwlch; ac enw y naill oedd Boses, ac enw y llall Sene. º