The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 10

1GWAE y rhai sydd yn gwneuthur deddfau anwir, a’r ysgrifenyddion Sydd yn ysgrifennu blinder; º

2I ymchwelyd y tlodion oddi wrth farn, ac i ddwyn barn angenogion fy mhobl: fel y byddo gweddwon yn ysbail iddynt, ac yr anrheithiont yr amddifaid. º

3A pha beth a wnewch yn nydd yr ymweliad, ac yn y distryw a ddaw o bell? at bwy y ffowch am gynhorthwy? a pha le y gadewch eich. gogoniant? º

4Hebof fi y crymant dan y carcharorion, a than y rhai a laddwyd y syrthiant. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond ero y mae ei law ef yn estynedig. º5?I Gwae Assur, gwialen fy llid, a’r ffon yn eu llaw hwynt yw fy nigofaint. º

5

6At genedl ragrithiol yr anfonaf ef, ac yn erbyn pobl fy nicter y gorchmynnaf iddo ysbeilio ysbail, ac ysglyfaethu ysglyfaeth, a’u gosod hwynt yn sathrfa megis torn yr heolydd. º

7Ond nid felly yr amcana efe, ac nid felly y meddwl ei galon; eithr y mae yn ei fryd ddifetha a thorn ymaith geahedloedd nid ychydig. º

8Canys efe a ddywed, Onid yw fy nhywysogion i gyd yn frenhinoedd? º

9Onid fel Charcemis yw Caino? onid fel Arpad yw Hamath? onid fel Damascus yw Samaria? º

10Megis y cyrhaeddodd fy llaw deyrn* asoedd yr eilunod, a’r rhai yr oedd eu delwau cerfiedig yn rhagori ar yr eiddo Jerwsalem a Samaria: º

11Onid megis y gwneuthum i Samaria ac i’w heilunod, felly y gwnaf i Jerwsalem ac i’w delwau hithau? º

12A bydd, pan gyflawno yr Arglwydd ei holl waith ym mynydd Seion, ac yn Jerwsalem, yr ymwelafa ffrwyth mawredd calon brenin Assur, ac a gogoniant uchelder ei lygaid ef: º

13Canys dywedodd, Trwy nerth fy llaw y gwneuthum hyn, a thrwy fy noethineb; oherwydd doeth ydwyf: ac mi a symudais derfynau pobloedd, a’u trysorau a ysbeiliais, ac a fwriais i’r llawr y trigolion fel gŵr grymus: º

14A’m llaw a gafodd gyfoeth y bobloedd fel nyth; ac megis y cesglir wyau wedi eu gado, y cesglais yr holl ddaear; ac nid oedd a symudai adain, nac a agorai safn, nac a ynganai. º

15A ymffrostia y fwycll yn erbyn yr hwn a gymyno a hi? a ymfawryga y llif yn erbyn yr hwn a’i tynno? megis pe ymddyrchafai y wialen yn erbyn y rhai a’i codai hi i fyny, neu megis pe ymddyr¬chafai y ffon, fel pe na byddai yn bren. º

16Am hynny yr hebrwng yr Arglwydd, Arglwydd y lluoedd, ymhlith ei freision ef guini; a than ei ogoniant ef y llysg llosgiad megis llosgiad tân. º

17A bydd goleuni Israel yn dan, a’i Sanct ef yn fflam: ac efe a lysg, ac a ysa ei ddrain a’i fieri mewn un dydd: º

18Gogoniant ei goed hefyd, a’i ddoldir, a ysa efe, enaid a chorff: a byddant megis pan lesmeirio banerwr. º

19A phrennau gweddill ei goed ef a fyddant o rifedi, fel y rhifo plentyn hwynt. º

20A bydd yn y dydd hwnnw, na chwanega gweddill Israel, a’r rhai a ddihangodd o dŷ Jacob, ymgynnal mwy* ach ar yr hwn a’u trawodd; ond pwysant ar yr ARGLWYDD, Sanct Israel, mewn gwirionedd. º

21Y gweddill a ddychwel, sef gweddill Jacob, at y Duw cadarn. º

22Canys pe byddai dy bobl di Israel Sei tywod y môr, gweddill ohonynt a ddychwel: darfodiad terfynedig a Ufa drosodd mewn cyfiawnder. º

23Canys darfodedigaeth, a honno yn derfynedig, a wna Arglwydd DDUW y lluoedd yng nghanol yr holl dir. º

24Am hynny fel hyn y dywed Ar¬glwydd DDUW y lluoedd, Fy mhobl yr hwn a breswyli yn Seion, nac ofna rhag yr Asyriad: a gwialen y’th dery di, ac efe a gyfyd ei ffon i’th erbyn, yn ôl ffordd yr Aifft. º

25Canys eto.ychydig bach, ac fe a dderfydd y llid, a’m digofaittt yn eu dinistr hwy. º

26Ac ARGLWYDD y lluoedd a gyfyd ffrewyll yn ei erbyn ef, megis lladdfa Midian yng nghraig Oreb: ac fel y bu ei wialen ar y môr, felly y cyfyd efe hi yn fill ffordd yr Aifft. º

27A bydd yn y dydd hwnnw, y symudir ei faich ef oddi ar dy ysgwydd di, a’i iau ef oddi ar dy war di; a dryllir yr iau, oherwydd yr eneiniad. º

28Daeth at Aiath, tramwyodd i Migron; ym Michmas y rhoddes ei ddodrefn i gadw. º

29Aethant trwy y rhyd, yn Geba y lletyasant: dychrynodd Rama; Gibea Saul a ffoes. º

30Bloeddia a’th lef, merch Galim: par ei chlywed hyd Lais, O Anathofh dlawd. º

31Ymbellhaodd Madmena: trigolion Gebim a ymgasglasant i ffoi, º

32Eto y dydd hwnnw y saif efe yn Nob; efe a gyfyd ei law yn erbyn mynydd merch Seion, bryn Jerwsalem. º

33Wele, yr Arglwydd, ARGLWYDD y Iluoedd, yn ysgythru y gangen & dychryn: a’r rhai uchel o gyrff a dorrir ymaith, a’r rhai goruchel a ostyngir. º

34Ac efe a dyr ymaith frysglwyni y coed a haearn; a Libanus trwy un cryfa gwymp.

← Llyfr Eseia 9Read In The App, Free →Llyfr Eseia 11 →

Study Llyfr Eseia 10

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566