Llyfr Eseia 14:29
Palesteina, na lawenycha di oll, er torri gwialen dy drawydd: oherwydd o wreiddyn y sarff y daw gwiber allan, a’i ffrwyth hi fydd sarff danllyd hedegog. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
28Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Ahas, y bu y baich hwn. º
Cross References
Joshua 13:3O Sihor, yr hon sydd o flaen yr Aipht, hyd derfyn Ecron tu a’r gogledd, yr hwn a gyfrifir i’r Canaaneaid: pùm tywysog y Philistiaid: y Gazathiaid, a’r Asdodiaid, yr Escaloniaid, y Githiaid, yr Ecroniaid; yr Afiaid:
2 Kings 18:8Efe a drawodd y Philistiaid hyd Gasa a’i therfynau, o dwr y gwylwyr hyd y ddinas gaerog. º
2 Chronicles 28:18Y Philistiaid hefyd a ruthrasent a ddinasoedd y gwastadedd, a thu deau Jwda, ac a enillasent Beth-semes, ac Ajalon, a Gederoth, a Socho a’i phentrefi, Timna hefyd a’i phentrefi, a Gimso a’i phentrefi; ac a drigasant yno.
Isaiah 11:8A’r plentyn sugno a chwery wrth dwil yr asb; ac ar ffau y wiber yr estyn yr hwn a ddiddyfnwyd ei ‘law. º
Ezekiel 26:2Ha fab dyn, oherwydd dywedyd o Tyrus am Jerwsalem, Aha, torrwyd hi, pyrth y bobloedd: trodd ataf fi: fo'm llenwir; anrheithiedig yw hi:
Hosea 9:1Israel, na orfoledda gan lawenydd, fel pobloedd eraill: canys puteiniaist oddi wrth dŷ DDUW, gwobrau a hoffaist ar bob llawr dyrnu ŷd.