Llyfr Eseia 14
1CANYS yr ARGLWYDD a dosturia wrth. Jacob, ac a ddethol Israel eto, ac a bair iddynt orffwys yn eu tir eu hunain; a’r dieithr a ymgysyllta â hwynt, a hwy a lynant wrth dŷ Jacob. º
2Y bobl hefyd a’u cymer hwynt, ac a’u dygant i’w lle, a thŷ Israel a’u meddianna hwynt yn nhir yr ARGLWYDD, yn weision ac yn forynion: a hwy a gaethiwant y rhai a’u caethiwodd hwythau, ac a lywodraethant ar eu gorthrymwyr. º
3A bydd, yn y dydd y rhoddo yr ARGLWYDD lonyddwch i ti oddi wrth dy ofid, ac oddi wrth dy ofn, ac oddi wrth y caethiwed caled y gwasanaethaist ynddo, º
4I ti gymryd y ddihareb hon yn erbyn brenin Babilon, a dywedyd. Pa wedd y peidiodd y gorthrymwr? ac y peidiodd y dref aur? º
5Yr ARGLWYDD a ddrylliodd ffon yr anwiriaid, a theyrnwialen y llywiawdwyr. º
6Yr hwn sydd yn taro y bobloedd mewn dicllonedd a phla gwastadol, yr hwn sydd yn llywodraethu y cenhedloedd mewn llidiowgrwydd, a erlidir heb neb yn lluddias. º
7Gorffwysodd a llonyddodd yr holl ddaear; canasant o lawenydd. º
8Y ffynidwydd hefyd a chedrwydd Libanus a lawenhasant yn dy erbyn, gan ddywedyd, Er pan orweddaist, nid esgynnodd cymynydd i’n herbyn. º
9Uffern oddi tanodd a gynhyrfodd o’th achos, i gyfarfod âthi wrth dy ddyfodiad: hi a gyfododd y meirw i ti, sef holl dywysogion y ddaear; cyfododd holl frenhinoedd y cenhedloedd o’u gorseddfaoedd. º
10Y rhai hynny oll a lefarant, ac a ddywedant wrthyt, A wanhawyd tithau fel ninnau? a aethost ti yn gyffelyb i ni? º
11Disgynnwyd dy falchder i’r bedd, a thrwst dy nablau: tanat y taenir pryf, pryfed hefyd a’th doant. º
12Pa fodd y syrthiaist o’r nefoedd, Lusiffer, mab y wawr ddydd! pa fodd y’th dorrwyd di i lawr, yr hwn a wanheaist y cenhedloedd! º
13Canys ti a ddywedaist yn dy galon, Mi a ddringaf i’r nefoedd; oddi ar sêr Duw y dyrchafaf fy ngorseddfa; a mi a eisteddaf ym mynydd y gynulleidfa, yn ystlysau y gogledd; º
14Dringaf yn uwch na’r cymylau; tebyg fyddaf i’r Goruchaf. º
15Er hynny i uffern y’th ddisgynnir i ystlysau y ffos. º
16Y rhai a’th welant a edrychant arnat yn graff, ac a’th ystyriant, gan ddywedyd, Ai dyma y gŵr a wnaeth i’r ddaear grynu, ac a gynhyrfodd deyrnasoedd? º
17A osododd y byd fel anialwch, ac a ddinistriodd ei ddinasoedd, heb ollwng ei garcharorion yn rhydd tuag adref? º
18Holl frenhinoedd y cenhedloedd, ie, hwy oll a orweddasant mewn gogoniant, bob un yn ei dŷ ei hun: º
19Eichr tydi a fwriwyd allan o’th fedd, fel cangen ffiaidd, neu wisg y lladdedigion, y rhai a drywanwyd â chleddyf; y rhai a ddisgynnent i gerrig y ffos, fel celain wedi ei mathru. º
20Ni byddi mewn un bedd â hwynt, oherwydd dy dir a ddifethaist, a’th bobl a leddaist: ni bydd had yr annuwiol enwog byth. º
21Darperwch laddfa i’w feibion ef, am anwiredd eu tadau; rhag codi ohonynt a goresgyn y tir, a llenwi wyneb y byd â dinasoedd. º
22Minnau a gyfodaf yn eu herbyn hwynt, medd ARGLWYDD y lluoedd, ac a dorraf allan o Babilon enw a gweddill, a mab, ac ŵyr, medd yr ARGLWYDD: º
23Ac a’i gosodaf hi yn feddiant i aderyn y bwn, ac yn byllau dyfroedd; ysgubaf hi hefyd ag ysgubau distryw, medd ARGLWYDD y lluoedd. º
24Tyngodd ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Diau megis yr amcenais, felly y bydd; ac fel y bwriedais, hynny a saif; º
25Am ddryllio Assur yn fy nhir: canys mathraf ef ar fy mynyddoedd; yna y cilia ei iau ef oddi arnynt, ac y symudir ei faich ef oddi ar eu hysgwyddau hwynt. º
26Dyma y cyngor a gymerwyd am yr holl ddaear: a dyma y llaw a estynnwyd ar yr holl genhedloedd. º
27Oherwydd ARGLWYDD y lluoedd a’i bwriadodd, a phwy a’i diddyma? ei law ef hefyd a estynnwyd, a phwy a’i try yn ôl? º
28Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Ahas, y bu y baich hwn. º
29Palesteina, na lawenycha di oll, er torri gwialen dy drawydd: oherwydd o wreiddyn y sarff y daw gwiber allan, a’i ffrwyth hi fydd sarff danllyd hedegog. º
30A chynblant y tlodion a ymborthant, a’r rhai anghenus a orweddant mewn diogelwch: a mi a laddaf dy wreiddyn â newyn, yntau a ladd y weddill. º
31Uda, borth; gwaedda, ddinas; Palesteina, ti oll a doddwyd: canys mwg sydd yn dyfod o’r gogledd, ac ni bydd unig yn ei amseroedd nodedig ef. º
32A pha beth a atebir i genhadau y genedl? Seilio o’r ARGLWYDD Seion, ac y gobeithia trueiniaid ei bobl ef ynddi.