Llyfr Eseia 21:1
BAICH anialwch y môr. Fel y mae corwynt yn y deau yn myned trwoddy felly y daw o’r anialwch, o wlad ofnadwy º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Job 37:9O’r deau y daw corwynt, ac oerni oddi wrth y gogledd.
Isaiah 13:4Llef tyrfa yn y mynyddoedd, yn gyffelyb i bobl lawer; sŵn twrf teyrnasoedd y cenhedloedd wedi ymgynnull: ARGLWYDD y lluoedd sydd yn cyfrif llu y rhyfel. º
Isaiah 13:17Wele fi yn cyfodi y Mediaid yn eu herbyn hwy, y rhai ni roddant fri ar arian; a’r aur nid ymhyfrydant ynddo. º
Isaiah 14:1CANYS yr ARGLWYDD a dosturia wrth. Jacob, ac a ddethol Israel eto, ac a bair iddynt orffwys yn eu tir eu hunain; a’r dieithr a ymgysyllta â hwynt, a hwy a lynant wrth dŷ Jacob. º
Isaiah 14:23Ac a’i gosodaf hi yn feddiant i aderyn y bwn, ac yn byllau dyfroedd; ysgubaf hi hefyd ag ysgubau distryw, medd ARGLWYDD y lluoedd. º
Isaiah 47:1DISGYN, ac eistedd ŷd y llwch, ti forwynferch Babilon, eistedd ar lawr: nid oes orseddfainc, ti ferch y Caldeaid; canys ni’th alwant mwy yn dyner ac yn foethus. º