Llyfr Eseia 21:2
Gweledigaeth galed a fynegwyd i mi. Yr anffyddlon sydd yn anffyddloni, a’r dinistrydd sydd yn dinistrio. Elam, dring; Media, gwarchae; gwneuthum i’w holt riddfan hi ddarfod. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 10:22Meibion Sem oedd Elam, ac Assur, ac Arphaxad, a Lud, ac Aram.
Psalms 12:5Yr ARGLWYDD a brawf y cyfiawn: eithr cas gan ei enaid ef y drygionus, a’r hwn sydd hoff ganddo drawster.
Psalms 79:11Ac anghofiasant ei weithredoedd a’i ryfeddodau, y rhai a ddangosasai efe iddynt.
Proverbs 13:15Deall da a ddyry ras: ond ffordd troseddwyr sydd galed.
Isaiah 13:2Dyrchefwch faner ar y mynydd uchel, dyrchefwch lef atynt, ysgydwch law, fel yr elont i fewn pyrth y pendefigion. º
Isaiah 14:1CANYS yr ARGLWYDD a dosturia wrth. Jacob, ac a ddethol Israel eto, ac a bair iddynt orffwys yn eu tir eu hunain; a’r dieithr a ymgysyllta â hwynt, a hwy a lynant wrth dŷ Jacob. º