Llyfr Eseia 24:1
WELE yr ARGLWYDD yn gwneuthur y ddaear yn wag, ac yn ei difwyno hi; canys efe a ddadymchwel ei hwyneb hi, ac a wasgar ei thrigolion. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 4:27A’r Arglwydd a’ch gwasgara chwi ym mhlith y bobloedd, a chwi a adewir yn ddynion anaml ym mysg y cenhedloedd, y rhai y dwg yr Arglwydd chwi attynt:
Deuteronomy 32:26Dywedais, Gwasgaraf hwynt i gonglau, paraf i’w coffadwriaeth ddarfod o fysg dynion;
Nehemiah 1:8Cofia, atolwg, y gair a orchmynnaist wrth Moses dy was, gan ddywedyd, Os chwi a droseddwch, myfi a’ch gwasgaraf chwi ymysg y bobloedd:
Isaiah 1:7Y mae eich gwlad yn anrheithiedig, eich dinasoedd wedi eu llosgi â thân: eich tir a dieithriaid yn ei ysu yn eich gŵydd, ac wedi ei anrheithio fel ped ymchwelai estroniaid ef.
Isaiah 5:6A mi a’i gosodaf hi yn ddifrod: nid ysgythrir hi, ac ni chloddir hi; ond mieri a drain a gyfyd: ac i’r cymylau y gorchmynnaf na lawiont law arni.
Isaiah 7:17Yr ARGLWYDD a ddwg arnat ti, ac ar dy bobl, ac ar dŷ dy dadau, ddyddiau ni ddaethant er y dydd yr ymadawodd Effraim oddi wrth Jwda, sef brenin Asyria.