The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 24

1WELE yr ARGLWYDD yn gwneuthur y ddaear yn wag, ac yn ei difwyno hi; canys efe a ddadymchwel ei hwyneb hi, ac a wasgar ei thrigolion. º

2Yna bydd yr un ffunud i’r bobl ac i’r offeiriad, i’r gwas ac i’w feistr, i’r llawforwyn ac i’w meistres, i’r prynydd ac i’r gwerthydd, i’r hwn a roddo ac i’r hwn a gymero echwyn, i’r hwn a gymero log ac i’r hwn a dalo log iddo. º

3Gan wacáu y gwaceir, a chan ysbeilio yr ysbeilir y wlad; canys yr ARGLWYDD a lefarodd y gair hwn. º

4Galarodd a diflannodd y ddaear, llesgaodd a dadwinodd y byd, dihoenodd pobl feilchion y ddaear. º

5Y ddaear hefyd a halogwyd dan ei phreswylwyr: canys troseddasant y cyfreithiau, newidiasant y deddfau, diddymasant y cyfamod tragwyddol. º

6Am hynny melltim a ysodd y tir, a’r rhai oedd yn trigo ynddo a anrheithiwyd; am hynny preswylwyr y tir a losgwyd, ac ychydig ddynion a adawyd. º

7Galarodd y gwin, llesgaodd y winwydden, y rhai llawen galon oll a riddfanasant. º

8Darfu llawenydd y tympanau, peidiodd trwst y gorfoleddwyr, darfu hyfrydwch y delyn. º

9Nid yfant win dan ganu; chwerw fydd diod gref i’r rhai a’i hyfant. º

10Drylliwyd y ddinas wagedd; caewyd pob tŷ, fel na ddeler i mewn. º

11Y mae llefain am win yn yr heolydd; tywyllodd pob llawenydd, byfrydwch y tir a fudodd ymaith. º

12Yn y ddinas y gadawyd anghyfanheddrwydd, ag anrhaith hefyd y dryllir y porth. º

13Oblegid bydd o fewn y tir, yng nghanol y bobloedd, megis ysgydwad olewydden, ac fel grawn lloffa pan ddarffo cynhaeaf y gwin. º

14Hwy a ddyrchafant eu llef, ac a ganant; oherwydd godidowgrwydd yr ARGLWYDD, bloeddiant o’r môr. º

15Am hynny gogoneddwch yr AR¬GLWYDD yn y dyffrynnoedd, enw AR¬GLWYDD DDUW Israel yn ynysoedd y môr. º

16O eithafoedd y ddaear y clywsom ganiadau, sef gogoniant i’r cyfiawn. A dywedais, O fy nghuini, O fy nghuini, gwae fi! y rhai anffyddlon a wnaethant yn anffyddlon, ie, gwnaeth yr anffyddlon o’r fath anffyddlonaf. º

17Dychryn, a ffos, a magi fydd amat ti, breswylydd y ddaear. º

18A’r hwn a ffy rhag trvist y dychryn, a syrth yn y ffos; a’r hwn a gyfodo o ganol y ffos, a ddelir yn y fagi: oherwydd ffenestri o’r uchelder a agorwyd, a sciliau y ddaear sydd yn crynu. º

19Gan ddryllio yr ymddrylliodd y ddaear, gan rwygo yr ymrwygodd y ddaear, gan symud yr ymsyrnudodd y ddaear. º

20Y ddaear gan symud a ymsymud fel meddwyn, ac a ymsigia megis bwth; a’i chamwedd fydd drwm ami; a hi a syrth, ac ni chyfyd mwy. º

21Yr amser hwnnw yr ymwêl yr AR¬GLWYDD â llu yr uchel, yr hwn sydd yn yr uchelder, ac a brenhinoedd y ddaear ar y ddaear. º

22A chesglir hwynt fel y cesglir carcharorion mewn daeardy, a hwy a garcherir mewn carchar, ac ymhen llawer o ddyddiau yr ymwelir a hwynt. º

23Yna y lleuad a wrida, a’r haul a gywilyddia, pan deyrnaso ARGLWYDD y lluoedd ym mynydd Seion ac yn Jerwsalern, ac o flaen ei henuriaid mewn gogoniant.

← Llyfr Eseia 23Read In The App, Free →Llyfr Eseia 25 →

Study Llyfr Eseia 24

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566