Llyfr Eseia 30:22
Yna yr halogwch ball dy gerfddelw arian, ac effod dy dawdd-ddelw aur; gwasgeri hwynt fel cadach misglwyf, a dywedi wrthynt, DOS ymaith. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 13:52Am hynny llosged y dilledyn hwnnw, pa un bynnag ai ystof, ai anwe, o wlan, neu o lin, neu ddim o groen, yr hwn y byddo pla ynddo: canys gwahan-glwyf ysol yw efe; llosger yn tân.
Judges 17:3A phan roddodd efe y mil a’r can sicl arian adref i’w fam, ei fam a ddywedodd Gan gysegru y cysegraswn yr arian i’r ARGLWYDD o’m llaw, i’m mab, i wneuthut delw gerfiedig a thoddedig: am hynny yn awr mi a’i rhoddaf eilwaith i ti. º
2 Chronicles 31:1Ac wedi gorffen hyn i gyd, holl Israel y rhai oedd bresennol a aethant allan i ddinasoedd Jwda, ac a ddrylliasant y delwau, ac a dorasant y llwyni, ac a ddistrywiasant yr uchelfeydd a’r allorau allan o holl Jwda a Benjamin, yn Effraim hefyd a Manasse, nes eu llwyr ddifa. Yna holl feibion Israel a ddychwelasant bob un i’w feddiant, i’w dinasoedd.
Isaiah 2:20Yn y dydd hwnnw y teifl dyn ei eilunod arian, a’i eilunod aur, y rhai a wnaethant iddynt i’w haddoli, i’r wadd ac i’r ystlumod:
Isaiah 27:9Am hynny trwy hyn y glanheir an¬wiredd Jacob; a dyna’r holl ffrwyth, tynnu ymaith ei bechod: pan wnelo efe holl gerrig yr allor fel cerrig calch briwedig, ni saif y llwyni na’r delwau. º
Isaiah 46:6Hwy a wastraffant aur o’r pwrs, ac a bwysant arian mewn dorian, a gyflogant eurych, ac efe a’i gweithia yn dduw; gostyngant, ac ymgrymant. º