Llyfr Eseia 30
1GWAE y meibion cyndyn, medd yr ARGLWYDD, a gymerant gyngor, ond nid gennyf fi; ac a orchuddiant a gorchudd, ac nid o’m hysbryd i, i chwanegu pechod ar bechod: º
2Y rhai sydd yn myned i ddis gyn i’r Aifft, heb ymofyn a mi, i ymnerthu yn nerth Pharo, ac i ymddiried yng nghysgod yrAifft. º
3Am hynny y bydd nerth Pharo ys gywilydd i chwi, a’r ymddiried yng nghys¬god yr Aifft yn waradwydd. º
4Canys bu ei dywysogion yn Soan, a’i genhadau a ddaethant i Hanes. º
5Hwynt oll a gywilyddiwyd oherwydd y bobl ni fuddia iddynt, ni byddant yn gynhorthwy nac yn llesad, eithr yn warth ac yn waradwydd. º
6Baich anifeiliaid y deau. I dir cystudd ac ing, lle y daw ohonynt yr hen lew a’r llew ieuanc, y wiber a’r sarff danllyd hedegog, y dygant eu golud ar gefnau asynnod, a’u trysorau ar gefnau camelod, at bobl ni wna les. º
7Canys yn ddiles ac yn ofer y cynorthwya yr Eifftiaid: am hynny y llefais arni, Eu nerth hwynt yw aros yn llonydd. º
8Dos yn avr,.ysgrifenna hyn mewn llech ger eu broil hwynt, ac ysgrifenna mewn llyfr, fel y byddo hyd y dydd diwethaf yn oes oesoedd; º
9Mai pobl wrthryfeigar yw y rhai hyn, plant celwyddog, plant ni fynnant wrando cyfraith yr ARGLWYDD: ‘ º
10Y rhai a ddywedant wrth y gweled¬yddion, Na welwch; ac wrth y proffwydi, Na phroffwydwch i ni bethau uniawn, traethwch i ni weniaith, proffwydwch i ni siomedigaeth: º
11Ciliwch o’r ffordd, ciliwch o’r llwybr; perwch i Sanct Israel beidio & ni. º
12Am hynny fel hyn y dywed Sanct Israel, Am wrthod ohonoch y gair hwn, ac ymddiried ohonoch mewn twyll a cham, a phwyso ar hynny: º
13Am hynny y bydd yr anwiredd hyn i chwi fel rhwygiad chwyddedig mewn mur uchel ar syrthio, yr hwn y daw ei ddrylliad yn ddisymwth heb atreg. º
14Canys efe a’i dryllia hi fel dryllio llestr crochenydd, gan guro heb arbed; fel na chaffer ymysg ei darnau gragen i gymryd tan o’r aelwyd, nac i godi dwfr o’r ffos. º
15Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Sanct Israel, Trwy ddychwelyd a gorffwys y byddwch gadwedig; mewn llonyddwch a gobaith y bydd eich cadernid: ond ni fynnech. º
16Eithr dywedasoch, Nid felly; canys ni a ffown ar feirch; am hynny y ffowch: a marchogwn ar feirch buain; am hynny y bydd buain y rhai a’ch erlidio. º
17Mil a ffy wrth gerydd un; ac wrth gerydd pump y ffowch, hyd oni’ch gadaw-* er megis hwylbren ar ben mynydd, ac fel baner ar fryn. º
18Ac am hynny y disgwyl yr AR¬GLWYDD i drugarhau wrthych, ie, am hynny yr ymddyrchaif i dosturio wrthych; canys Duw cyfiawnder yw yr ARGLWYDD. Gwyn eu byd y rhai oll a ddisgwyliant wrtho. º
19Canys y bobl a drig yn Seion o fewn Jerwsalem: gan wylo nid wyli; gan drugar¬hau efe a drugarha wrthyt; wrth lef dy waedd, pan ei clywo, efe a’th ateb di. º
20A’r Arglwydd a rydd i chwi fara ing a dwfr gorthrymder, ond ni chomelir dy.sxbeawsm. niwy, eabs dylygaid fyddant yn gweled dy athrawon: º
21A’th, glustiau a glywant;air o’th, ôl yn dywedyd, Dyma y ffordd, rhodiwch ynddi, pan bwysoch ar y llaw ddeau, neu pan bwysoch ar y llaw aswy. º
22Yna yr halogwch ball dy gerfddelw arian, ac effod dy dawdd-ddelw aur; gwasgeri hwynt fel cadach misglwyf, a dywedi wrthynt, DOS ymaith. º
23Ac efe a rydd law i’th had pan heuech dy dir, a bara cnwd y ddaear, ac efe a fydd yn dew ac yn ami; a’r dydd hwnnw y pawr dy anifeiliaid mewn porfa helaeth. º
24Dy ychen hefyd a’th asynnod, y rhai a lafuriant y tir, a borant ebran pur; yr hwn a nithiwyd a gwyntyll ac a gogr. º
25Bydd hefyd ar bob mynydd uchel, ac ar bob bryn dyrchafedig, afonydd a ffrydiau dyfroedd, yn nydd y lladdfa fawr, pan syrthio y tyrau. º
26A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul, a llewyrch yr haul fydd saith mwy, megis llewyrch saith niwrnod, yn y dydd y rhwyma yr ARGLWYDD friw el bobl, ac yr iachao archoll eu dyrnod hwynt. º
27Wele enw yr ARGLWYDD yn dyfod a bell, yn llosgi gan ei ddigofaint ef, a’i faich sydd drwm; ei wefusau a lanwyd o ddicter, a’i dafod sydd megis tan ysol. º
28Ei anadl hefyd, megis afon lifeiriol, a gyrraedd hyd hanner y gwddf, i nithio’r cenhedloedd a gogr oferedd; a bydd ffrwyn yng ngenau y bobloedd, yn eu gyrru ar gyfeiliorn. º
29Y gan fydd gennych megis y noswaith y sancteiddir uchel wyl; a llawenydd calon, megis pan elo un a phibell i fyned i fynydd yr ARGLWYDD, at Gadarn yr Israel. º
30A’r ARGLWYDD a wna glywed ardderchowgrwydd ei lais, ac a ddengys ddisgyniad ei fraich, mewn dicter llidiog, ac a fflam dân ysol, a gwasgarfa, ac a thymesti, ac a cherrig cenllysg. º
31Canys â llais yr ARGLWYDD y distrywir Assur, yr hwn a drawai a’r wialen. º
32A pha le bynnag yr elo y wialen. ddiysgog, yr hon a,esyd yr ARSI-WTOD arno ef, gyda thympanau a thelynau’ y bydd: ac a rhyfel tost yr ymladd efe yn ei erbyn. º
33Canys darparwyd Toffet er doe, ie, paratowyd hi i’r brenin: efe a’i dyfnhaodd hi, ac a’i ehangodd: ei chyneuad sydd dân a choed lawer; anadl yr ARGLWYDD, megis afon. o frwmstan, sydd yn ei faennyn hi.