Llyfr Eseia 33:20
gwêl Seion, dinas ein cyfarfod: dy lygaid a welant Jerwsalem, y breswylfa lonydd, y babell ni thynnir i lawr, ac ni syflir un o’i hoelion byth, ac ni thorrir un o’i rhaffau. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 16:16¶ Tair gwaith yn y flwyddyn yr ymddengys pob gwrryw o honot o flaen yr Arglwydd dy Dduw, yn y lle a ddewiso efe; ar wyl y bara croyw, ac ar wyl yr wythnosau, ac ar wyl y pebyll: ond nac ymddangosed neb o flaen yr Arglwydd yn waglaw.
Psalms 46:6Dy orsedd di, O DDUW, sydd byth ac yn dragywydd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy frenhiniaeth di.
Psalms 125:1Caniad y graddau, o’r eiddo Dafydd. Oni buasai yr ARGLWYDD yr hwn a fu gyda ni, y gall Israel ddywedyd yn awr;
Isaiah 4:5A’r ARGLWYDD a grea ar bob trigfa o fynydd Seion, ac ar ei gymanfaoedd, gwmwl a mwg y dydd, a llewyrch tân fflamllyd y nos: canys ar yr holl ogoniant y bydd amddiffyn.
Isaiah 37:33Am hynny fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD am frenin Asyria, Ni ddaw efe i’r ddinas hon, ac nid ergydia efe saeth yno; hefyd ni ddaw o’i blaen a tharian, ac ni fwrw glawdd i’w herbyn. º