The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 33

1GWAE di anrheithiwr, a thi heb dy anrheithio; a thi anffyddlon, er na: wnaed yn anffyddlon a thi: pan ddarffoi ti anrheithio, y’th anrheithir; a phatt ddarffo i ti fod yn anffyddlon, byddant. anffyddlon i ti. º

2ARGLWYDD, trugarha wrthym; wrthyt y disgwyliasom: bydd fraich iddynt bob bore, a’n hiachawdwriaeth ninnau yn amser cystudd. º

3Wrth lais y twrf y gwibiodd y bobl; wrth ymddyrchafu ohonot y gwasgarwyd y cenhedloedd. º

4A’ch ysbail a gynullir fel. cynulliad lindys; fel gwibiad ceiliogod rhedyn y rhed efe arnynt. º

5Dyrchafwyd yr ARGLWYDD; canys preswylio y mae yn yr uchelder: efe a lanwodd Seion o farn a chyfiawnder. º

6A sicrwydd. dy amserau, a nerth iachawdwriaeth, fydd doethineb a gwybodaeth: ofn yr ARGLWYDD yw ei drysor ef. º

7Wele, eu rhai dewrion a waeddafit oddi allan: cenhadon heddwchi a wylant yn chwerw.: º

8Aeth y priffyrdd yn ddisathr, darfn cyniweirydd llwybr: diddymodd y cyfamod, diystyrodd y dinasoedd, ni wnaeth gyfrif o ddynion. º

9Galarodd a llesgaodd y ddaear, cywilyddiodd Libanus, a thorrwyd ef; Saron a aeth megis anialwch, ysgydwyd Basan hefyd a Charmel. º

10Cyfodaf yn awr, medd yr ARGLWYDD: ymddyrchafaf weithian; ymgodaf bellach. º

11Chwi a ymddygwch us, ac a esgorwch ar sofl; eich anadl fel tan a’ch ysa chwi. º

12A’r bobloedd fyddant fel llosgfa calch, fel drain wedi eu torri y llosgir hwy yn tân. º

13Gwrandewch, belledigiQn, yr hyn a wneuthum; a gwybyddwch, gymdogion, fy nerth. º

14Pechaduriaid a ofnasant yn Seion, dychryn a ddaliodd y rhagrithwyr: pwy ohonom a drig gyda’r tân ysol? pwy ohonom a breswylia gyda llosgfeydd tragwyddol? º

15Yr hwn a rodia mewn cyfiawnder, ac a draetha uniondeb, a wrthyd elw traws-ter, a ysgydwo ei law rhag derbyn gwobr a gaeo ei glust rhag clywed celanedd, ac a gaeo ei lygaid rhag edrych ar ddrygioni, º

16Efe a breswylia yr uchelderau; cestyll y creigiau fydd ei amddiffynfa ef: ei fara a roddir iddo, ei ddwfr fydd sicr. º

17Dy lygaid a welant y brenin yn i degwch: gwelant y lir pell. º

18Dy galon a fyfyria ofn; pa le y mae yr ysgrifennydd? pa le y mae y trysorwr? pa le y mae rhifwr y tyrau? º

19Ni chei weled pobl greulon, pobl o iaith ddyfnach nag a ddeallech di, neu floesg dafod, fel na ddeallech. º

20gwêl Seion, dinas ein cyfarfod: dy lygaid a welant Jerwsalem, y breswylfa lonydd, y babell ni thynnir i lawr, ac ni syflir un o’i hoelion byth, ac ni thorrir un o’i rhaffau. º

21Eithr yr ARGLWYDD ardderchog fydd yno i ni, yn fangre afonydd a-ffrydiau llydain: y rhwyflong nid a trwyddo, a llong odidog nid a drosto. º

22Canys yr ARGLWYDD yw ein barnwr, yr ARGLWYDD yw ein deddfwr, yr AR¬GLWYDD yw ein brenin; efe a’n ceidw. º

23Gollyngasant dy raffau, ni chadarnhasant eu hwylbren yn iawn, ni thaenasant yr hwyl; yna y rhennir ysglyfaeth ysbail fawr, y cloffion a ysglyfaethant yr ysglyfaeth. º

24Ac ni ddywed y preswylydd, Claf ydwyf: maddeuir anwiredd y bobl a drigant ynddi.

← Llyfr Eseia 32Read In The App, Free →Llyfr Eseia 34 →

Study Llyfr Eseia 33

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566