Llyfr Eseia 34:4
Holl lu y nefoedd hefyd a ddatodir, a’r nefoedd a blygir fel llyfr: a’i holl lu a syrth, fel y syrthiai deilen o’r winwydden, ac fel ffigysen yn syrthio oddi ar y pren. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Isaiah 13:13Am hynny yr ysgydwaf y nefoedd, a’r ddaear a gryn o’i lle, yn nigofaint AR¬GLWYDD y lluoedd, ac yn nydd llid ei ddicter ef. º
Jeremiah 4:23Mi a edrychais ar y ddaear, ac wele, afluniaidd a gwag oedd; ac ar y nefoedd, a goleuni nid oedd ganddynt.
Joel 2:30A gwnaf ryfeddodau yn y nefoedd; ac yn y ddaear, gwaed, a thân, a cholofnau mwg.
Matthew 24:29¶ Ac yn y fan wedi gorthrymder y dyddiau hynny, y tywyllir yr haul, a’r lleuad ni rydd ei goleuni, a’r sêr a syrth o’r nef, a nerthoedd y nefoedd a ysgydwir.
Mark 13:24¶ Ond yn y dyddiau hynny, wedi’r gorthrymder hwnnw, y tywylla’r haul, a’r lloer ni rydd ei goleuni,