The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 34

1NESEWCH, genhedloedd, i glywed, a gwrandewch, bobloedd; gwrandawed y ddaear ac oll y sydd ynddi, y byd a’i holl gnwd. º

2Canys llidiowgrwydd yr ARGLWYDD sydd ar yr holl genhedloedd, a’i soriant ar eu holl luoedd hwynt: difrododd hwynt, rhoddes hwynt i’r lladdfa. º

3A’u lladdedigion a fwrir allan, a’u drewiant o’u celanedd a gyfyd i fyny, y mynyddoedd hefyd a doddant o’u gwaed. hwynt. º

4Holl lu y nefoedd hefyd a ddatodir, a’r nefoedd a blygir fel llyfr: a’i holl lu a syrth, fel y syrthiai deilen o’r winwydden, ac fel ffigysen yn syrthio oddi ar y pren. º

5Canys fy nghleddyf a drochir yn y nefoedd: wele, ar Edom y disgyn i fam, ac ar y bobl a ysgymunais. º

6Cleddyf yr ARGLWYDD a lanwyd "o waed, tewychodd gan fraster, a chan waed wyn a bychod, gan fraster arennau hyrddod: canys mae i’r ARGLWYDD aberth yn Bosra, a lladdfa fawr yn nhir Edom. º

7A disgyn yr unicorniaid gyda hwynt, a’r bustych gyda’r teirw; a’u tir hwynt a feddwa o’u gwaed hwynt, a’u llwch fydd dew o fraster. º

8Canys diwrnod dial yr ARGLWYDD, blwyddyn taledigaeth yn achos Seion, yw. º

9A’i hafonydd a droir yn byg, a’i llwch yn frwmstan, a’i daear yn byg llosgedig. º

10Nis diffoddir nos na dydd; ei mwg a ddring byth: o genhedlaeth i genhedlaeth y diffeithir hi, ni bydd cyniweirydd trwyddi byth bythoedd. º

11Y pelican hefyd a’r draenog a’i meddianna; y dylluan a’r gigfran a drigant ynddi; ac etc a estyn arni xxx linya anhrefn, a meini gwagedd. º

12Ei phendcfigion hi a alwant i’r frenhiniaeth, ond ni bydd yr un yno, a’i holl dywysogion hi fyddant ddiddim. º

13Cyfyd hefyd yn ei phalasau ddrain, danadl ac ysgall o fewn ei cheyrydd: a hi a fydd yn drigfa dreigiau, yn gyntedd i gywion yr estrys. º

14Ac anifeiliaid gwylltion yr anialwch, a’r cathod, a ymgyfarfyddant: yr ellyll a eilw ar ei gyfaill; yr wyll a orffwys yno hefyd, ac a gaiff orffwysfa iddi. º

15Yno y nycha y dylluan, ac y dodwa, ac y deora, ac a gasgl yn ei chysgod; y fwlturiaid a ymgasglant yno hefyd, pob un gyda’i gymar. º

16Ceisiwch allan o lyfr yr ARGLWYDD, a darllenwch; ni phalla un o hyn, ni bydd un heb ei gymar; canys fy ngenau, efe a ftrchmynnodd, a’i ysbryd, efe a’u casglodd hwynt. º

17Efe hefyd a fwriodd y coelbren iddynt, a’i law ef a’i rhannodd hi iddynt wrth linyn: meddiannant hi hyd byth, a phreswyliant ynddi o genhedlaeth i genhedlaeth.

← Llyfr Eseia 33Read In The App, Free →Llyfr Eseia 35 →

Study Llyfr Eseia 34

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566