Llyfr Eseia 36:16
Na wrandewch ar Heseceia: canys fel hyn y dywed brenin Asyria, Gwnewch fwynder a mi, a deuwch allan ataf, a bwytewch bob un o’i winwydden ei hun, a phob un o’i ffigysbren, ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun; º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 32:20A dywedwch hefyd, Wele dy was Jacob ar ein hol ni. Oblegid, eb efe, boddlonaf ei wyneb ef â’r anrheg sydd yn myned o’m blaen: ac wedi hynny edrychaf yn ei wyneb ef; ond antur efe a dderbyn fy wyneb innau.
1 Samuel 11:3A henuriaid Jabes a ddywedasant wrtho, Caniata i ni saith niwrnod, fel yr anfonom genhadau i holl derfynau Israel: ac oni bydd a’n gwaredo, ni a ddeuwn allan atat ti. º
2 Samuel 8:6A Dafydd a osododd swyddogion yn Syria Damascus; a’r Syriaid a fuant weision i Dafydd, yn dwyn treth. A’r ARGLWYDD a gadwodd Dafydd ym mha le bynnag yr aeth efe. º
1 Kings 4:25Ac yr oedd Jwda ac Israel yn preswylio yn ddiogel, bob un dan ei winwydden a than ei ffigysbren, o Dan hyd Beer-seba, holl ddyddiau Solomon.
2 Kings 18:31Na wrandewch ar Heseceia: canys fel hyn y dywed brenin Asyria, Gwnewch fwynder a mi, a deuwch allan ataf fi, ac yna bwytewch bob un o’i winwydden ei hun, a phob un o’i ffigysbren, ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun: º
Proverbs 5:15Yf ddwfr o’th bydew dy hun, a ffrydiau allan o’th ffynnon dy hun.