Llyfr Eseia 36
1AC yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg * i’r brenin Heseceia, y daeth Sena-cherib brenin Asyria i fyny yn erbyn holl gaerog ddinasoedd Jwda, ac a’u goresgynnodd hwynt. º
2A brenin Asyria a anfonodd Rabsace o Lachis i Jerwsalem, at y brenin Heseceia, a llu dirfawr. Ac efe a safodd wrth bistyll y llyn uchaf, ym mhriffordd maes y pannwr. º
3Ac aeth ato ef Eliacim mab Hiloeia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgnfennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur. º
4d A dywedodd Rabsace wrthynt, Dywedwch yn awr wrth Heseceia; Fel hyn y dywed y brenin mawr, brenin Asyria, Pa hyder yw hwn yr ymddiriedi ynddo? º
5Dywedais, meddi, (ond nid ydynt ond geiriau ofer,) Cyngor a nerth sydd gennyf i ryfel: ar bwy, atolwg, yr hydcri, pan wyt yn gwrthryfela i’m herbyn? º
6Wele, hyderaist ar y ffon gorsen ddrylliedig honno, ar yr Aifft; yr hon pwy bynnag a bwyso arni, In º 1 a i gledr ei law ef, ac a dylla trwyddi: ielly y mae Pharo brenin yr Ailft i bawb a hyderant ariiQt º
7Ond os dywedi wrthyf, Yn yr AR¬GLWYDD ein Duw yr ydym yn ymddiried: onid efe yw yr hwn y darfu i Heseceia dynnu i lawr ei uchelfeydd, a’i allorau, a dywedyd wrth Jwda a Jerwsalem, O flaen yr allor hon yr addolwch? º
8Ac yn awr dod wystlon, atolwg, i’m harglwydd brenin Asyria, a mi a roddaf i ti ddwy fil o feirch, os gelli di roddi rhai a farchogo arnynt. º
9A pha fodd y troi di ymaith wyneb un capten o’r gweision lleiaf i’m harglwydd, ac yr ymddiriedi yn yr Aifft am gerbydau ac am farchogion? º
10Ai heb yr ARGLWYDD y deuthum i fyny yr awr hon yn erbyn y wlad hon i’w dinisttio? yr ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, DOS i fyny yn erbyn y wlad hon, a dinistria hi. º
11Yna y dywedodd Eliacim, a Sebna, a Joa, wrth Rabsace, Llefara, atolwg, wrth dy weision yn Syriaeg: canys yr ydym ni yn ei deall; ac na lefara wrthym yn iaith yr Iddewon, lle y clywo y bobl sydd ar y mur. º
12Ond Rabsace a ddywedodd, Ai at dy feistr ac atat tithau yr anfonodd fy meistr fi i lefaru y geiriau hyn? onid at y dynion sydd yn eistedd ar y mur yr anfonodd fi, fel y bwytaont eu torn eu hun, ac yr yfont eu trwnc eu hun gyda chwi? º
13A safodd Rabsace, a gwaeddodd â llef uchel yn iaith yr Iddewon, ac a ddy¬wedodd, Gwrandewch eiriau y brenin mawr, brenin Asyria: º
14Fel hyn y dywed y brenin, Na thwylled Heseceia chwi: canys ni ddichon efe eich gwaredu chwi. º
15Ac na phared Heseceia i chwi ym¬ddiried yn yr ARGLWYDD, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD gan waredu a’ch gwared chwi, ni roddir y ddinas hon yn llaw brenhin Asyria. º
16Na wrandewch ar Heseceia: canys fel hyn y dywed brenin Asyria, Gwnewch fwynder a mi, a deuwch allan ataf, a bwytewch bob un o’i winwydden ei hun, a phob un o’i ffigysbren, ac yfed pawb ddwfr ei ffynnon ei hun; º
17Nes i mi ddyfod a’ch dwyn chwi i wlad megis eich gwlad eich hun, gwlad ŷd a gwin, gwlad bara a gwinllannoedd. º
18Gwyliwch rhag i Heseceia eich hudo chwi, gan ddywedyd, Yr ARGLWYDD a’n gwared ni. A waredodd un o dduwiau y cenhedloedd ei wlad o law brenin Asyria? º
19Mae duwiau Hamath ac Arffad? mae duwiau Seffarfaim? a waredasant hwy Samaria o’m llaw i? º
20Pwy sydd ymhlith holl dduwiau y gwledydd hyn a’r a waredasant eu gwlad o’m llaw i, fel y gwaredai yr ARGLWYDD Jerwsalem o’m llaw? º
21Eithr hwy a dawsant, ac nid atebasant air iddo; canys gorchymyn y brenin oedd hyn, gan ddywedyd, Nac atebwch ef. º
22Yna y daeth Eliacim mab Hiloeia, yr hwn oedd benteulu, a Sebna yr ysgrifennydd, a Joa mab Asaff y cofiadur, at Heseceia, a’u dillad yn rhwygedig, ac a fynegasant iddo eiriau Rabsace.