Llyfr Eseia 38:1
YN y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw. Ac Eseia y proffwyd mab Amos a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr AR GLWYDD, Trefna dy dŷ; canys marw fyddi, ac ni byddi byw. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Yna Heseceia a droes ei wyneb at y pared, ac a weddïodd at yr ARGLWYDD: º
Cross References
2 Samuel 17:23A phan welodd Ahitoffel na wnaethid ei gyngor ef, efe a gyfrwyodd ei asyn, ac a gyfododd, ac a aeth i’w dy ei hun, i’w ddinas, ac a wnaeth drefn ar ei dŷ, ac a ymgrogodd, ac a fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dad. º
2 Chronicles 32:24Yn y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw, ac a weddïodd ar yr ARGLWYDD: yntau a lefarodd wrtho, ac a roddes argoel iddo.
Isaiah 1:1Gweledigaeth Eseia mab Amos, yr hon a welodd efe am Jwda a Jerwsalem, yn nyddiau Usseia, Jotham, Alias, a Heseceia, brenhinoedd Jwda.
Isaiah 37:21Yna Eseia mab Amos a anfonodd at Heseceia, gan ddywedyd. Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Israel, Oherwydd i ti weddïo ataf fi yn erbyn Sena¬cherib brenin Asyria: º
Isaiah 39:3Yna y daeth Eseia y proffwyd at y brenin Heseceia, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant atat? A dywedodd Heseceia, (? wlad bell y daethant ataf fi, sef o Babilon. º
Jonah 3:4A Jona a ddechreuodd fyned i'r ddinas daith un diwrnod, ac efe a lefodd ac a ddywedodd, Deugain niwrnod fydd eto, a Ninefe a gwympir. 15 A gwŷ r Ninefe a gredasant i DDUW, ac a gyhoeddasant ympryd, ac a wisgasant sachliain, o'r mwyaf hyd y lleiaf ohonynt. 16 Canys gair a ddaeth at frenin Ninefe, ac efe a gyfododd o'i frenhinfainc, ac a diosgodd oddi amdano ei frenhinwisg, ac a roddes amdano liain sach, ac a eisteddodd mewn lludw. 17 Ac efe a barodd gyhoeddi, a dywedyd trwy Ninefe, trwy orchymyn y brenin a'i bendefigion, gan ddywedyd, Dyn ac anifail, eidion a dafad, na phrofant ddim, na phorant, ac nac yfant ddwfr. 18 Gwisger dyn ac anifail a sachlen, a galwant ar DDUW yn lew: ie, dychwelant bob un oddi wrth ei ffordd ddrygionus, ac oddi wrth y trawster sydd yn eu dwylo. 9 Pwy a w^yr a dry DUW ac edifarhau, a throi oddi wrth angerdd ei ddig, fel na difether ni? 10 A gwelodd DUW eu gweithredoedd hwynt, droi ohonynt o'u ffyrdd drygionus; ac edifarhaodd DUW am y drwg a ddywedasai y gwnai iddynt, ac nis gwnaeth.