Llyfr Eseia 38
1YN y dyddiau hynny y clafychodd Heseceia hyd farw. Ac Eseia y proffwyd mab Amos a ddaeth ato ef, ac a ddywedodd wrtho, Fel hyn y dywed yr AR GLWYDD, Trefna dy dŷ; canys marw fyddi, ac ni byddi byw. º
2Yna Heseceia a droes ei wyneb at y pared, ac a weddïodd at yr ARGLWYDD: º
3A dywedodd, Atolwg, ARGLWYDD, cofia yr awr hon i mi rodio ger dy fron di mewn gwirionedd ac a chalon berffaith, a gwneuthur ohonof yr hyn oedd dda yn dy olwg. A Heseceia a wylodd ag wylofain mawr. º
4Yna y bu gair yr ARGLWYDD with Eseia, gan ddywedyd, º
5DOS, a dywed wrth Heseceia, Fel hyn y dywed ARGLWYDD DDUW Dafydd dy dad, Clywais dy weddi di, gwelais dy ddagrau, wele, mi a chwanegaf at dy ddyddiau di bymtheng mlynedd. º
6Ac o law brenin Asyria y’th waredaf di a’r ddinas: a mi a ddiflymraf y ddinas hon. º
7A hyn fydd i ti yn arwydd oddi wrth yr ARGLWYDD, y gwna yr ARGLWYDB y gair hwn a lefarodd; º
8Wele fi yn dychwelyd cysgod y graddau, yr hwn a ddisgynnodd yn neial Ahas gyda’r haul, ddeg o raddau yn ei ôl. Felly yr haul a ddychwelodd ddeg o raddau, ar hyd y graddau y disgynasai ar hyd-ddynt. º
9Ysgrifen Heseceia brenin Jwda, pan glafychasai, a byw ohono o’i glefyd: º
10Aiyfi a ddywedais yn nhoriad fy nyddiau, Af i byrth y bedd; difuddiwyd fi o weddill fy mlynyddoedd. º
11Dywedais, Ni chaf weled yr AR¬GLWYDD I OR yn nhir y rhai byw: ni welaf ddyn mwyach ymysg trigolion y byd. º
12Fy nhrigfa a aeth, ac a symudwyd oddi wrthyf fel lluest bugail: torrais ymaith fy hoedl megis gwehydd; a nychdod y’m tyr ymaith: o ddydd hyd nos y gwnei ben amdanaf. º
13Cyfrifais hyd y bore, mai megis llew y dryllia efe fy holl esgyrn: o ddydd hyd nos y gwnei ddiben arnaf. º
14Megis garan neu wennol, felly trydar a wneuthum; griddfenais megis colomen; fy llygaid a ddyrchafwyd i fyny: O ARGLWYDD, gorthrymwyd fi, esmwytha arnaf. º
15Beth a ddywedaf? canys dywedodd wrthyf, ac efe a’i gwna: mi a gerddaf yn araf fy holl flynyddoedd yn chwerwedd fy enaid. º
16Arglwydd, trwy y pethau hyn yr ydys yn byw, ac yn yr holl bethau hyn y mae bywyd fy ysbryd i; felly yr iachei, ac y bywhei fi. º
17Wele yn lle heddwch i mi chwerwder chwerw: ond o gariad ar fy enaid y gwaredaist ef o bwll llygredigaeth: canys ti a deflaist fy holl bechodau o’r tu ôl i’th gefn. º
18Canys y bedd ni’th fawl di, angau ni’th glodfora: y rhai sydd yn disgyn i’r pwll ni obeithiant am dy wirionedd. º
19Y byw, y byw, efe a’th fawl di, fel yr wyf fi heddiw: y tad a hysbysa i’r plant dy wirionedd. º
20Yr ARGLWYDD sydd i’m cadw: am hynny y canwn fy nghaniadau holl ddydd¬iau ein heinioes yn nhŷ yr ARGLWYDD. º
21Canys Eseia a ddywedasai, Cymerant swp o ffigys, a rhwymant yn blastr ar y cornwyd, ac efe a fydd byw. º
22A dywedasai Heseceia, Pa arwydd fydd y caf fyned i fyny i dŷ yr ARGLWYDD?