Llyfr Eseia 40:22
Efe sydd yn eistedd ar amgylchoedd y ddaear, a’i thrigolion sydd fel locustiaid; yr hwn a daena y nefoedd fel llen, ac a’i lleda fel pabell i drigo ynddi: º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
23Yr hwn a wna lywodraethwyr yn ddiddim; fel gwagedd y gwna efe farnwyr y ddaear. º
Cross References
Numbers 13:33Ac yno y gwelsom y cawri, meibion Anac, y rhai a ddaethant o’r cawri; ac yr oeddem yn ein golwg ein hunain fel ceiliogod rhedyn, ac felly yr oeddem yn eu golwg hwythau.
Job 22:14Y tew gymylau sydd loches iddo, ac ni wêl; ac y mae efe yn rhodio ar gylch y nefoedd.
Job 36:29Hefyd, a ddeall dyn daeniadau y cymylau, a thwrf ei babell ef?
Job 38:4Pa le yr oeddit ti pan sylfaenais i y ddaear? mynega, os medri ddeall.