The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 40

1YSURWCH, cysurwch fy mhobl, ‘—’ medd eich Duw. º

2Dywedwch wrth fodd calon Jerwsalem, llefwch wrthi hi, gyflawni ei milwriaeth, ddileu ei hanwiredd: oherwydd derbyniodd o law yr ARGLWYDD yn ddauddyblyg am ei holl bechodau. º

3Llef un yn llefain yn yr anialwch, Paratowch ffordd yr ARGLWYDD, unionwch lwybr i’n Duw ni yn y diffeithwch. º

4Pob pant a gyfodir, a phob mynydd a bryn a ostyngir: y gwŷr a wneir yn union, a’r anwastad yn wastadedd. º

5A gogoniant yr ARGLWYDD a ddatguddir, a phob cnawd ynghyd â’i gwel; canys genau yr ARGLWYDD a lefarodd hyn. º

6Y llef a ddywedodd, Gwaedda. Yntau a ddywedodd, Beth a waeddaf? Pob cnawd sydd wellt, a’i holl odidowgrwydd fel blodeuyn y maes. º

7Gwywa y gwelltyn, syrth y blod¬euyn; canys ysbryd yr ARGLWYDD a chwythodd arno: gwellt yn ddiau yw y bobl. º

8Gwywa y gwelltyn, syrth y blodeuyn; ond gair ein Duw ni a saif byth. º

9Dring rhagot, yr efengyles Seion, i fynydd uchel; dyrchafa dy lef trwy nerth, O efengyles Jerwsalem: dyrchafa, nac ofna; dywed wrth ddinasoedd Jwda, Wele eich Duw chwi. º

10Wele, yr ARGLWYDD DDUW a ddaw yn erbyn y cadarn, a’i fraich a lywodraetha drosto: wele ei wobr gydag if, a’i waith o’i Haen. º

11Fel bugail y portha fcfe- N braidd; a’i fraich y casgl ei wyn, ac a’u dwg yn ei fynwes, ac a goledda y mamogiaid. º

12, Pwy a fesurodd y dyfroedd yn ei ddwrn, ac a fesurodd y nefoedd a’i rychwant, ac a gymhwysodd bridd y ddaear mewn mesur, ac a bwysodd y mynyddoedd mewn pwysau, a’r bryniau mewn cloriannau? º

13Pwy a gyfarwyddodd Ysbryd yr ARGLWYDD, ac yn ŵr o’i gyngor a’i cyfarwyddodd ef? º

14A phwy yr ymgynghorodd efe, ie, pwy a’i cyfarwyddodd, ac a’i dysgodd yn llwybr barn, ac a ddysgodd iddo wybodaeth, ac a ddangosodd iddo ffordd dealltwriaeth? º

15Wele, y cenhedloedd a gyfrifwyd fel defnyn o gelwrn, ac fel mân lwch y cloriannau; wele, fel brycheuyn y cymer efe yr ynysoedd i fyny. º

16Ac nid digon Libanus i gynnau tân; nid digon ei fwystfilod chwaith yn boethoffrwm. º

17Yr holl genhedloedd ydynt megis diddim ger ei fron ef; yn llai na dim, ac na gwagedd, y cyfrifwyd hwynt ganddo. º

18I bwy gan hynny y cyffelybwch DDUW? a pha ddelw a osodwch iddo? º

19Y crefftwr a dawdd gerfddelw, a’r eurych a’i goreura, ac a dawdd gadwyni arian. º

20Yr hwn sydd dlawd ei offrwm a ddewis bren ni phydra; efe a gais ato saer cywraint, i baratoi cerfddelw, yr hon ni syfl. º

21Oni wybuoch? oni chlywsoch? oni fynegwyd i chwi o’r dechreuad? oni ddeallasoch er seiliad y ddaear? º

22Efe sydd yn eistedd ar amgylchoedd y ddaear, a’i thrigolion sydd fel locustiaid; yr hwn a daena y nefoedd fel llen, ac a’i lleda fel pabell i drigo ynddi: º

23Yr hwn a wna lywodraethwyr yn ddiddim; fel gwagedd y gwna efe farnwyr y ddaear. º

24Ie, ni phlennir hwynt, nis heuir chwaith; ei foncyff hefyd ni wreiddia yn y ddaear: ac efe a chwyth arnynt, a hwy a wywant, a chorwynt a’u dwg hwynt ymaith fel son. º

25I bwy gan hynny y’m cyrfelybwchs ac y’m cystedlir? medd y Sanct. º

26Dyrchefwch eich llygaid i fyny, ac edrychwch pwy a greodd y rhai hyn, a ddwg eu llu hwynt allan mewn rhifedi: efe a’u geilw hwynt oll with eu henwau; gan arnlder ei rym ef, a’i gadarn allu, ni phalla un. º

27Paham y dywedi, Jacob, ac y lleferi, Israel, Cuddiwyd fy ffordd oddi wrth yr ARGLWYDD, a’m barn a aeth heibio i’m Duw? º

28Oni wyddost, oni chlywaist, na ddiffygia ac na flina Duw tragwyddoldeb, yr ARGLWYDD, Creawdwr cyrrau y ddaear? ni ellir chwilio allan ei synnwyr ef. º

29Yr hwn a rydd nerth i’r diffygiol, ac a amlha gryfder i’r di-rym. º

30Canys yr ieuenctid a ddiflygia ac a flina, a’r gwŷr ieuainc gan syrthio a syrthiant: º

31Eithr y rhai a obeithiant yn yr ARGLWYDD a adnewyddant eu nerth; ehedant fel eryrod; rhedant, ac ni flinant, rhodiant, ac ni ddiffygiant.

← Llyfr Eseia 39Read In The App, Free →Llyfr Eseia 41 →

Study Llyfr Eseia 40

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566