Llyfr Eseia 41:2
Pwy a gyfododd y cyfiawn o’r dwyrain, a’i galwodd at ei droed, a roddodd y cenhedloedd o’i flaen ef, ac a wnaeth iddo lywodraethu ar frenhinoedd? efe a’u rhoddodd hwynt fel llwch i’w gleddyf, ac fel sofl gwasgaredig i’w fwa ef. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
3Y mae efe yn eu herlid hwynt, ac yn myned yn ddiogel; ar hyd llwybr ni cherddasai efe a’i draed. º
Cross References
Genesis 11:31A Therah a gymmerodd Abram ei fab, a Lot fab Haran, mab ei fab, a Sarai ei waudd, gwraig Abram ei fab; a hwy a aethant allan ynghyd o Ur y Caldeaid, i fyned i dir Canaan; ac a ddaethant hyd yn Haran, ac a drigasant yno.
Genesis 14:14A phan glybu Abram gaethgludo ei frawd, efe a arfogodd o’i hyfforddus weision a anesid yn ei dŷ ef, ddau naw a thri chant, ac a ymlidiodd hyd Dan.
2 Samuel 22:43Disgwyliasant, ond nid oedd achubydd; sef am yr ARGLWYDD, ond nid.Stebodd hwynt. º 43 Yna y maluriais hwynt fel llwch y ddaear; melais hwynt fel torn yr heolydd, a thaenais hwynt. º
2 Chronicles 36:23Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, ARGLWYDD DDUW y nefoedd a roddodd holl deyrnasoedd y ddaear i mi, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu tŷ iddo yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda. Pwy sydd yn eich mysg chwi o’i holl bobl ef? yr ARGLWYDD ei DDUW fyddo gydag ef, ac eled i fyny.
Isaiah 40:24Ie, ni phlennir hwynt, nis heuir chwaith; ei foncyff hefyd ni wreiddia yn y ddaear: ac efe a chwyth arnynt, a hwy a wywant, a chorwynt a’u dwg hwynt ymaith fel son. º
Isaiah 41:25Cyfodais un o’r gogledd, ac efe a ddaw; o gyfodiad haul y geilw efe ar fy enw; ac efe a ddaw ar dywysogion fel ar glai, ac fel y sathr crochenydd bridd. º