Llyfr Eseia 41
1DISTEWCH, ynysoedd, ger fy mron; adnewydded y cenhedloedd eu nerth: deuant yn nes, yna llefarant; cydnesawn i farn. º
2Pwy a gyfododd y cyfiawn o’r dwyrain, a’i galwodd at ei droed, a roddodd y cenhedloedd o’i flaen ef, ac a wnaeth iddo lywodraethu ar frenhinoedd? efe a’u rhoddodd hwynt fel llwch i’w gleddyf, ac fel sofl gwasgaredig i’w fwa ef. º
3Y mae efe yn eu herlid hwynt, ac yn myned yn ddiogel; ar hyd llwybr ni cherddasai efe a’i draed. º
4Pwy a weithredodd ac a wnaeth hyn, gan alw y cenedlaethau o’r dechreuad? Myfi yr ARGLWYDD y cyntaf, myfi hefyd fydd gyda’r diwethaf. º
5Yr ynysoedd a welsant, ac a ofnasaat; eithafoedd y ddaear a ddychrynasant, a nesasant, ac a ddaethant. º
6Pob un a gynorthwyodd ei gymydog, ac a ddywedodd wrth ei frawd, Ymgryfha. º
7Felly y saer a gysurodd yr eurych, a’r morthwyliwr yr hwn oedd yn taro ar yr eingion, gan ddywedyd, Y mae yn barod i’w asio; ac efe a’i sicrhaodd â hoelion, fel nad ysgogir. º
8Eithr ti, Israel, fy ngwas ydwyt ti, Jacob yr hwn a etholais, had Abraham fy anwylyd. º
9Ti, yr hwn a gymerais o eithafoedd y ddaear, ac y’th elwais oddi wrth ei phendefigion, ac y dywedais wrthyt, Fy ngwas wyt ti; dewisais di, ac ni’th wrthodais. º
10Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: na lwfrha; canys myfi yw dy DDUW: cadarnhaf di, cynorthwyaf di hefyd, a chynhaliaf di a deheulaw fy nghyfiawnder. º
11Wele, cywilyddir a gwaradwyddir y rhai oll a lidiasent wrthyt: dy wrthwynebwyr a fyddant megis diddim, ac a ddifethir. º
12Ti a’u ceisi, ac nis cei hwynt, sef y dynion a ymgynenasant a thi: y gwŷr a ryfelant a thi fyddant megis diddim, a megis peth heb ddim. º
13Canys myfi yr ARGLWYDD dy DDUW a ymaflaf yn dy ddeheulaw, a ddywed wrthyt, Nac ofna, myfi a’th gynorthwyaf. º
14Nac ofna, di bryf Jacob, gwŷr Israel; myfi a’th gynorthwyaf, medd yr ARGLWYDD, a’th Waredydd, Sanct Israel. º
15Wele, gosodaf di yn fen ddyrnu newydd ddanheddog; y mynyddoedd a ddyrni ac a feli, gosodi hefyd y bryniau fel mwlwg. º
16Nithi hwynt, a’r gwynt a’u dwg ymaith, a’r corwynt a’u gwasgar hwynt: a thi a lawenychi yn yr ARGLWYDD, yn Sanct Israel y gorfoleddi. º
17Pan geisio y trueimaid a’r tlodion ddwfr, ac nis cant, pan ballo eu tafod o syched,myfi yr ARGLWYDD ii’u gwrandawaf hwynt, myfi Duw Israel nis gadawaf hwynt. º
18Agoraf afonydd ar leoedd uchel, a ffynhonnau yng nghanol y dyffrynnoedd: gwnaf y diffeithwch yn llyn dwfr, a’r crastir yn ffrydiau dyfroedd. º
19Gosodaf yn yr anialwch y fiedrwydd, sita, myrtwydd, ac olewydd; gosodaf yn y diffeithwch ffynidwydd, ffawydd, a’r pren bocs ynghyd; º
20Fel y gwelont, ac y gwybyddont, ac yr ystyriont, ac y deallonfr ynghyd, mai llaw yr ARGLWYDD a wnaeth hyn, a Sanct Israel a’i creodd. º
21Deuwch yn nes a’ch cwyn, medd yr ARGLWYDD; dygwch eich rhesymau cadarnaf, medd brenin Jacob. º
22Dygant hwynt allan, a mynegant i ‘ni y pethau a ddigwyddant: mynegwch y" pethau gynt, beth ydynt, fel yr ystyriom ac y gwypom eu diwedd hwynt; neu traethwch i ni y pethau a ddaw. º
23Mynegwch y pethau a ddaw ar ôl hyn, fel y gwypom mai duwiau ydycht chwi; gwnewch hefyd dda neu ddrwg, fel y synno arnom, ac y gwelom ynghyd. º
24Wele, peth heb ddim ydych chwi, a’ch gwaith sydd ddiddim: ffiaidd yw y gŵr a’ch dewiso chwi. º
25Cyfodais un o’r gogledd, ac efe a ddaw; o gyfodiad haul y geilw efe ar fy enw; ac efe a ddaw ar dywysogion fel ar glai, ac fel y sathr crochenydd bridd. º
26Pwy a fynegodd o’r dechreuad, fel y gwybyddom? ac ymlaen llaw, fel y dywedom, Cyfiawn yw? nid oes a fynega nid oes a draetha chwaith, ac nid oes a glyw eich ymadroddion. º
27Y cyntaf a ddywed wrth Seion Wele, wele hwynt; rhoddaf hefyd efeng-ylwr i Jerwsalem. º
28Canys edrychais, ac nid oedd neb, ie, yn eu plith, ac nid oedd gynghorwr, pan ofynnais iddynt, a fedrai ateb gair. º
29Wele, hwynt oll ydynt wagedd, a’u gweithredoedd yn ddiddim: gwync a gwagedd yw eu tawdd-ddelwau.