Llyfr Eseia 43:4
Er pan aethost yn werthfawr yn fy ngolwg, y’th ogoneddwyd, a mi a’th hoffais; am hynny y rhoddaf ddynion amdanat ti, a phobloedd dros dy einioes di. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
5Nac ofna; canys yr ydwyf fi gyda thi: o’r dwyrain y dygaf dy had, ac o’r gorllewin y’th gasglaf. º
Cross References
Genesis 12:2A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a’th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith.
Deuteronomy 4:37Ac o achos iddo garu dy dadau, am hynny y dewisodd efe eu had hwynt ar eu hol; ac a’th ddug di o’i flaen, â’i fawr allu, allan o’r Aipht:
Deuteronomy 14:2Canys pobl sanctaidd wyt ti i’r Arglwydd dy Dduw, a’r Arglwydd a’th ddewisodd di i fod yn bobl unig iddo ef, o’r holl bobloedd sydd ar wyneb y ddaear.
Deuteronomy 32:9Canys rhan yr Arglwydd yw ei bobl; Jacob yw rhan ei etifeddiaeth ef.
Jeremiah 31:3Er ys talm yr ymddangosodd yr AR¬GLWYDD i mi, gan ddywedyd, A chariad tragwyddol y’th gerais: am hynny tynnaig di a thrugaredd. º