Llyfr Eseia 44:25
Yn diddymu arwyddion y rhai celwyddog, ac yn ynfydu dewiniaid; yn troi y doethion yn eu hôl, ac yn gwneuthur eu gwybodaeth yn ynfyd: º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 9:11A’r swynwyr ni allent sefyll ger bron Moses, gan y cornwyd; oblegid yr oedd y cornwyd ar y swynwyr, ac ar yr holl Aiphtiaid.
2 Samuel 15:31A mynegwyd i Dafydd, gan ddywedyd, Y mae Ahitoffel ymysg y cydfwriadwyr gydag Absalom. A Dafydd a ddywedodd, O Arglwydd, tro, atolwg, gyngor Ahitoffel yn ffolineb.
2 Samuel 17:23A phan welodd Ahitoffel na wnaethid ei gyngor ef, efe a gyfrwyodd ei asyn, ac a gyfododd, ac a aeth i’w dy ei hun, i’w ddinas, ac a wnaeth drefn ar ei dŷ, ac a ymgrogodd, ac a fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dad. º
1 Kings 22:22Dywedodd yntau. Mi a af allan, ac a fyddaf yn ysbryd celwyddog yng ngenau ei holl broffwydi ef. Ac efe a ddywedodd, Twylli a gorchfygi ef: dos ymaith, a gwna felly. º
2 Chronicles 18:11A’r holl broffwydi oedd yn proffwydo fel hyn, gan ddywedyd, Dos i fyny i Ramoth-Gilead, a ffynna: canys yr AR¬GLWYDD a’i dyry hi yn llaw y brenin.
Job 5:12Efe sydd yn diddymu amcanion y cyfrwys, fel na allo eu dwylo ddwyn dim i ben.