The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 44

1A yn awr gwrando, Jacob fy ngwas, ac Israel yr hwn a ddewisais. º

2Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, yr hwn a’th wnaeth, ac a’th luniodd o’r groth, efe a’th gynorthwya: Nac ofna, fy ngwas Jacob; a thi, Jeswrwn, yr hwn a ddewisais. º

3Canys tywalltaf ddyfroedd ar y sychedig, a ffrydiau ar y sychdir: tywalltaf Sy Ysbryd ar dy had, a’m bendith ar dy hiliogaeth: º

4A hwy a dyfant megis ymysg glaswellt, fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd. º

5Hwn a ddywed, Eiddo yr ARGLWYDD ydwyf fi; a’r llall a’i geilw ei hun ar enw Jacob; ac arall a ysgrifenna a’i law, Eiddo yr ARGLWYDD ydwyf, ac a ymgyfenwa ar enw Israel. º

6Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Brenin Israel, a’i Waredydd, ARGLWYDD y lluoedd; Myfi yw y cyntaf, diwethaf ydwyf fi hefyd; ac nid oes Duw ond myfi. º

7Pwy hefyd, fel fi, a eilw, a fynega, ac a esyd hyn yn drefnus i mi, er pan osodais yr hen bobl? neu mynegant iddynt y pethau sydd ar ddyfod, a’r pethau a ddaw. º

8Nac ofnwch, ac nac arswydwch; onid 6r hynny o amser y traethais i ti, ac y mynegais? a’m tystion ydych chwi. A oes Duw ond myfi? ie, nid oes Duw: nid adwaen i yr un. º

9Oferedd ydynt hwy oll y rhai a luniant ddelw gerfiedig; ni wna eu pethau dymimol lesad: tystion ydynt iddynt eu hun, na welant, ac na wyddant; fel y byddo cywilydd arnynt. º

10Pwy a luniai dduw, neu a fwriai ddelw gerfiedig, heb wneuthur dim lles? º

11Wele, ei holl gyfeillion a gywilyddir, y seiri hsfyd, o ddynion y maent: casgler hwynt oll, safant i fyny; eto hwy a ofnant, ac a gydgywilyddiant. º

12Y gof a’r efel a weithia yn y glo, ac a’i llunia a morthwylion, ac & nerth ei fraich y gweithia efe hi: newynog yw hefyd, a’i nerth a balla; nid yfddwfr, ac y mae yn diffygio. º

13Y saer pren a estyn ei linyn; efe a’i llunia hi wrth linyn coch; efe a’i cymhwys-a hi a bwyeill, ac a’i gweithia wrth gwmpas, ac a’i gwna ar ôl delw dyn, fel prydferthwch dyn, i aros mewn tŷ. º

14Efe a dyr iddo gedrwydd, ac a gymer y gypreswydden a’r dderwen, ac a ymegnïa ymysg prennau y coed; efe a blanna onnen, a’r glaw a’i maetha. º

15Yna y bydd i ddyn i gynnau tân: canys efe a gymer ohoni, ac a ymdwyma; ie, efe a’i llysg, ac a boba fara; gwna hefyd dduw, ac a’i haddola ef; gwna ef yn ddelw gerfiedig, ac a ymgryma iddo. º

16Rhan ohono a lysg efe yn tân; wrth ran ohono y bwyty gig, y rhostia rost, fel y diwaller ef: efe a ymdwyma hefyd, ac a ddywed. Aha, ymdwymais, gwelais dan. º

17A’r rhan arall yn dduw y gwna, yn ddelw gerfiedig iddo; efe a ymgryma iddo, ac a’i haddola, ac a weddïa arno, ac a ddywed, Gwared fi; canys fy nuw ydwyt. º

18Ni wyddant, ac ni ddeallant; canys Duw a gaeodd eu llygaid hwynt rhag’ gweled, a’u calonnau rhag deall. º

19Ie, ni feddwl neb yn ei galon, ie, nid oes wybodaeth na deall i ddywedyd, Llosgais ran ohono yn tân, ac ar ei farwor y pobais fara, y rhostiais gig, ac y bwyteais; ac a wnaf fi y rban arall yn ffieidd-beth? a ymgrymaf i foncyff o bren? º

20Ymborth ar ludw y mae; calon siomedig a’i gwyrdrodd ef, fel na waredo ei enaid, ac na ddywedo, Onid oes celwydd yn fy neheulaw? º

21Meddwl hyn, Jacob ac Israel; canys fy ngwas ydwyt ti; lluniais di, gwas i. mi ydwyt; Israel, ni’th anghofir gennyf. º

22Dileais dy gamweddau fel cwmwi, a’th bechodau fel niwi: dychwel ataf fi; canys myfi a’th waredais di. º

23Cenwch, nefoedd: canys yr ARGLWYDD a wnaeth hyn: bloeddiwch, gwaelodion y ddaear; bloeddiwch ganu, fynyddoedd, y coed a phob pren ynddo: canys gwaredodd yr ARGLWYDD Jacob, ac yn Israel yr ymogonedda efe. º

24Fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD dy Waredydd, a’r hwn a’th luniodd o’r groth, Myfi yw yr ARGLWYDD sydd yn gwneuthur pob peth, yn estyn y nefoedd fy hunan, yn lledu y ddaear ohonof fy hun: º

25Yn diddymu arwyddion y rhai celwyddog, ac yn ynfydu dewiniaid; yn troi y doethion yn eu hôl, ac yn gwneuthur eu gwybodaeth yn ynfyd: º

26Yr hwn a gyflawna air ei was, ac a gwblha gyngor ei genhadon; yr hwn a ddywed wrth Jerwsalem, Ti a breswylir; ac wrth ddinasoedd Jwda, Chwi a adeiledir, a chyfodaf ei hadwyau: º

27Yr hwn wyf yn dywedyd wrth y dyfnder, Bydd sych; a mi a sychaf dy afonydd: º

28Yr hwn wyf yn dywedyd wrth Cyrus, Fy mugail yw, ac efe a gyflawna fy holl ewyllys: gan ddywedyd wnft Jerwsalem, Ti a adeiledir; ac wrth y deral, Ti a sylfaenir.

← Llyfr Eseia 43Read In The App, Free →Llyfr Eseia 45 →

Study Llyfr Eseia 44

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566