Llyfr Eseia 44:5
Hwn a ddywed, Eiddo yr ARGLWYDD ydwyf fi; a’r llall a’i geilw ei hun ar enw Jacob; ac arall a ysgrifenna a’i law, Eiddo yr ARGLWYDD ydwyf, ac a ymgyfenwa ar enw Israel. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
4A hwy a dyfant megis ymysg glaswellt, fel helyg wrth ffrydiau dyfroedd. º
Cross References
Deuteronomy 26:17Cymmeraist yr Arglwydd heddyw i fod yn Dduw i ti, ac i rodio yn ei ffyrdd ef, ac i gadw ei ddeddfau, a’i orchymynion, a’i farnedigaethau, ac i wrandaw ar ei lais ef.
Nehemiah 9:38Ac oherwydd hyn oll yr ydym yn gwneuthur cyfamod sicr, ac yn ei ysgrifennu; ac y mae ein tywysogion, ein Lefiaid, a’n hoffeiriaid, yn ei selio.
Isaiah 2:3A phobloedd lawer a ânt ac a ddywedant, Deuwch, ac esgynnwn i fynydd yr ARGLWYDD, i dŷ Duw Jacob, ac efe a’n dysg ni yn ei ffyrdd, a ni a rodiwn yn ei lwybrau ef; canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
Micah 4:2A.chenhedloedd lawer a ânt, ac a ddywedant, Deuwch, ac awn i fyny i fynydd yr ARGLWYDD, ac i dŷ DDUW Jacob; ac efe a ddysg i ni ei ffyrdd, ac yn ei lwybrau y rhodiwn: canys y gyfraith a â allan o Seion, a gair yr ARGLWYDD o Jerwsalem.
Zechariah 13:9A dygaf drydedd ran trwy y tân, a phuraf hwynt fel puro arian, a choethaf hwynt fel coethi aur: hwy a alwant ar fy enw, a minnau a'u gwrandawaf: dywedaf, Fy mhobl yw efe; ac yntau a ddywed, Yr ARGLWYDD yw fy NUW.
Galatians 6:16A chynnifer ag a rodiant yn ôl y rheol hon, tangnefedd arnynt a thrugaredd, ac ar Israel Duw.