Llyfr Eseia 47:6
Digiais wrth fy mhobl, halogais fy etifeddiaeth, a rhoddais hwynt yn dy law di; ni chymeraist drugaredd arnynt; rhoddaist dy iau yn drom iawn ar yr henuriaid. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
7A dywedaist, Byth y byddaf arglwyddes: felly nid ystyriaist hyn, ac ni chofiaist ei diwedd hi. º
Cross References
Deuteronomy 28:50Cenedl wyneb-galed, yr hon ni dderbyn wyneb yr henafgwr, ac ni bydd raslawn i’r llangc.
2 Chronicles 10:11Ac yn awr fy nhad a’ch llwythodd chwi â iau drom, minnau hefyd a chwanegaf ar eich iau chwi: fy nhad a’ch ceryddodd chwi â ffrewyllau, a minnau a’ch ceryddaf ag ysgorpionau.
2 Chronicles 36:17Am hynny efe a ddygodd i fyny arnynt hwy frenin y Caldeaid, yr hwn a laddodd eu gwŷr ieuaninc hwy â’r cleddyf yn nhŷ eu cysegr, ac nid arbedodd na ŵr ieuanc na morwyn, na hen, na’r hwn oedd yn camu gan oedran: efe a’u rhoddodd hwynt oll yn ei law ef.
Ezra 5:12Eithr wedi i’n tadau ni ddigio Duw y nefoedd, efe a’u rhoddes hwynt yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, y Caldead; a’r tŷ hwn a ddinistriodd efe, ac a gaethgludodd y bobl i Babilon.
Isaiah 10:6At genedl ragrithiol yr anfonaf ef, ac yn erbyn pobl fy nicter y gorchmynnaf iddo ysbeilio ysbail, ac ysglyfaethu ysglyfaeth, a’u gosod hwynt yn sathrfa megis torn yr heolydd. º
Isaiah 14:17A osododd y byd fel anialwch, ac a ddinistriodd ei ddinasoedd, heb ollwng ei garcharorion yn rhydd tuag adref? º