Llyfr Eseia 47
1DISGYN, ac eistedd ŷd y llwch, ti forwynferch Babilon, eistedd ar lawr: nid oes orseddfainc, ti ferch y Caldeaid; canys ni’th alwant mwy yn dyner ac yn foethus. º
2Cymer y meini melin, a mala flawd; datguddia dy lywethau, noetha dy sodlau, dinoetha dy forddwydydd, dos trwy yr afonydd. º
3Dy noethni a ddatguddir, dy warth hefyd a welir: dialaf, ac nid fel dyn y’th gyfarfyddaf. º
4Ein gwaredydd ni, ei enw yw AR¬GLWYDD y lluoedd, Sanct Israel. º
5Eistedd yn ddistaw, a dos i dywyllwch, ti ferch y Caldeaid: canys ni’th alwant mwy yn Arglwyddes y teyrnasoedd. º
6Digiais wrth fy mhobl, halogais fy etifeddiaeth, a rhoddais hwynt yn dy law di; ni chymeraist drugaredd arnynt; rhoddaist dy iau yn drom iawn ar yr henuriaid. º
7A dywedaist, Byth y byddaf arglwyddes: felly nid ystyriaist hyn, ac ni chofiaist ei diwedd hi. º
8Am hynny yn awr gwrando hyn, y foethus, yr hon a drigi yn ddiofal, yr hon a ddywedi yn dy galon, Myfi sydd, ac nid neb ond myfi: nid eisteddaf yn weddw, ac ni chaf wybod beth yw diepiledd. º
9Ond y ddau beth hyn a ddaw i ti yn ddisymwth yr un dydd, diep’ledd a gweddwdod: yn gwbl y deuant arnat, am amlder dy hudoliaethau, a mawr nerth dy swynion. º
10Canys ymddiriedaist yn dy ddrygioni: dywedaist, Ni’m gwêl neb. Dy ildoethineb a’th wybodaeth a’th hurtiant;;i dywedaist yn dy galon, Myfi sydd, ac nid neb arall ond myfi. º
11Am hynny y daw amat ddrygfyd, yr hwn ni chei wybod ei gyfodiad; a syrth.irnat ddinistr nis gelli ei ochelyd: ie, daw.irnat ddistryw yn ddisymwth, heb wybod i ti. º
12Safyn awr gyda’th swynion, a chydag.imlder dy hudoliaethau, yn y rhai yr ‘ ymflinaist o’th ieuenctid; i edrych a elli wneuthur lles, i edrych a fyddi grymus, º
13Ymflinaist yn amlder dy gynghorion dy hun. Safed yn awr astronomyddion y nefoedd, y rhai a dremiant ar y sêr, y rhai º 1 hysbysant am y misoedd, ac achubant di oddi wrth y pethau a ddeuant arnat. º
14Wele, hwy a fyddant fel sofl; y tân.i’u llysg hwynt, ni waredant eu heinioes o Ieddiant y fflam: ni bydd marworyn i vmdwymo, na than i eisiedd ar ei gyfer. º
15Felly y byddant hwy i ti gyda’r i liai yr ymflinaist, sef dy farsiandwyr o’th ieuenctid; crwydrasant bob un ar ei iluedd; nid oes un yn dy achub di.