Llyfr Eseia 49:18
Dyrcha dy lygaid oddi amgylch, ac edrych: y rhai hyn oll a ymgasglant, ac a ddeuant atat. Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD, diau y gwisgi hwynt oll fel harddwisg, ac y rhwymi hwynt amdanat fel priodferch. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
17Dy blant a frysiant; y rhai a’th ddinistriant, ac a’th ddistrywiant, a ânt allan ohonot. º
Cross References
Genesis 13:14¶ A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, wedi ymneillduo o Lot oddi wrtho ef, Cyfod dy lygaid, ac edrych o’r lle yr wyt ynddo, tu a’r gogledd, a’r dehau, a’r dwyrain, a’r gorllewin.
Proverbs 17:6Coron yr hynafgwyr yw en hwyrion: ac anrhydedd y plant yw eu tadau.
Isaiah 45:23I mi fy hun y tyngais, aeth y gair o’m genau mewn cyfiawnder, ac m ddychwel, Mai i mi y plyga pob glin, y twng pob tafod. º
Isaiah 49:22Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Wele, cyfodaf fy llaw at y cenhedloedd, a dyrchafaf fy maner at y bobloedd; a dygant dy feibion yn eu mynwes, a dygir dy ferched ar ysgwyddau. º
Isaiah 54:1CAN, di amhlantadwy nid esgorodd; bloeddia ganu, a gorfoledda, yr hon nid esgorodd: oherwydd amiach meibion yr hon a adawyd, na’r hon y mae gŵr iddi, medd yr ARGLWYDD. º
Isaiah 54:9Canys fel dyfroedd Noa y mae hyn i mi: canys megis y tyngais nad elai dyfroedd Noa mwy dros y ddaear; felly y tyngais na ddigiwn wrthyt, ac na’th geryddwn. º