The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 49

1GWRANDEWCH arnaf, ynysoedd; ac ystyriwch, bobl o bell; Yr AR¬GLWYDD a’m galwodd o’r groth; o ymysgaroeddfymam y gwnaeth goffa amfyenw. º

2Gosododd hefyd fy ngenau fel deddyf llym, yng nghysgod ei law y’m cuddiodd; a gwnaeth fi yn saeth loyw, cuddiodd fi yn ei gawell saethau; º

3Ac a ddywedodd wrthyf, Fy ngwas i ydwyt ti, Israel, yr hwn yr ymogoneddaf ynot. º

4Minnau a ddywedais, Yn ofer y llafuriais, yn ofer ac am ddim y treuliais fy nerth; er hynny y mae fy marn gyda’r ARGLWYDD, a’m gwaith gyda’m Duw. º

5Ac yn awr, medd yr ARGLWYDD yr hwn a’m lluniodd o’r groth yn was iddo, i ddychwelyd Jacob ato ef, Er nad ymgasglodd Israel, eto gogoneddus fyddaf fi yng ngolwg yr ARGLWYDD, a’m Duw fydd fy nerth. º

6Ac efe a ddywedodd, Gwael yw dy fod yn was i mi, i gyfodi llwythau Jacob, ac i adferu rhai cadwedig Israel: mi a’th roddaf hefyd yn oleuni i’r Cenhedloedd, fel y byddych yn iachawdwriaeth i mi hyd eithaf y ddaear. º

7Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Gwaredydd Israel, a’i Sanct, wrth y dirmygedig o enaid, wrth yr hwn sydd ffiaidd gan y genedl, wrth was llywodraethwyr; Brenhinoedd a welant, ac a gyfodant; tywysogion hefyd a ymgrymant, er mwyn yr ARGLWYDD, yr hwn sydd ffyddlon, Sanct Israel, ac efe a’th ddewisodd di. º

8Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Mewn amser bodlongar y’th wrandewais, ac yn nydd iachawdwriaeth y’th gynorthwyais; a mi a’th gadwaf, ac a’th roddaf yn gyfamod y bobl, i sicrhau y ddaear, i Beri etifeddu yr etifeddiaethau anghyfanheddol; º

9Fel y dywedych wrth y carcharorion, Ewch allan; wrth y rhai sydd mewn tywyllwch, Ymddangoswch. Ar y ffyrdd y porant, ac yn yr holl uchelfannau y bydd eu porfa hwynt. º

10Ni newynant, ac ni sychedant; ac nis tery gwres na haul hwynt: oherwydd yr hwn a dosturia wrthynt a’u tywys, ac a’u harwain wrth y ffynhonnau dyfroedd. º

11A mi a wnaf fy holl fynydd yn ffordd, a’m priflyrdd a gyfodir. º

12Wele, y rhai hyn a ddeuant o bell: ac wele, y rhai acw o’r gogledd, ac o’r gorllewin; a’r rhai yma o dir Sinim. º

13Cenwch, nefoedd; a gorfoledda, ddaear; bloeddiwch ganu, y mynyddoedd; canys yr ARGLWYDD a gysurodd ei bobl, ac a drugarha wrth ei drueiniaid. º

14Eto dywedodd Seion, Yr AR¬GLWYDD a’m gwrthododd, a’m Harglwydd a’m hanghofiodd. º

15A anghofia gwraig ei phlentyn sugno, fel na thosturio wrth fab ei chroth? ie, hwy a allant anghofio, eto myfi nid anghofiaf di. º

16Wele, ar gledr fy nwylo y’th argreffais; dy furiau sydd ger fy mron bob amser. º

17Dy blant a frysiant; y rhai a’th ddinistriant, ac a’th ddistrywiant, a ânt allan ohonot. º

18Dyrcha dy lygaid oddi amgylch, ac edrych: y rhai hyn oll a ymgasglant, ac a ddeuant atat. Fel mai byw fi, medd yr ARGLWYDD, diau y gwisgi hwynt oll fel harddwisg, ac y rhwymi hwynt amdanat fel priodferch. º

19Canys dy ddiffeithwch a’th anialwch, a’th dir dinistriol, yn ddiau fydd yn awr yn rhy gyfyng gan breswylwyr; a’r rhai a’th lyncant a ymbellhant. º

20Plant dy ddiepiledd a ddywedant eto lle y clywych, Cyfyng yw y lle hwn i mi, dod le i mi, fel y preswyliwyf. º

21Yna y dywedi yn dy galon, Pwy a genhedlodd y rhai hyn i mi, a mi yn ddiepil, ac yn unig, yn gaeth, ac ar grwydr? a phwy a fagodd y rbai hyn? Wele, myfi a adawyd fy hunan; o ba le y daeth y rhai hyn? º

22Fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Wele, cyfodaf fy llaw at y cenhedloedd, a dyrchafaf fy maner at y bobloedd; a dygant dy feibion yn eu mynwes, a dygir dy ferched ar ysgwyddau. º

23Brenhinoedd hefyd fydd dy dadmaethod, a’u breninesau dy famaethod; crymant i ti a’u bwynebau tua’r llawr, a llyfant lwch dy draed; a chei wybod mai myfi yw yr ARGLWYDD: canys ni chywilyddir y rhai a ddisgwyliant wrthyf fi. º

24A ddygir y caffaeliad oddi ar y cadarn? neu a waredir y rhai a garcherir yn gyfiawn? º

25Ond fel hyn y dywed yr ARGLWYDD, Ie, carcharorion y cadarn a ddygir, ac anrhaith y creulon a ddianc: canys myfi a ymrysonaf â’th ymrysonydd, a myfi a achubaf dy feibion. º

26Gwnaf hefyd i’th orthrymwyr fwyta eu cig eu hunain, ac ar eu gwaed eu hun y meddwant fel ar win melys; a gwybydd pob cnawd mai myfi yr ARGLWYDD yw dy Achubydd, a’th gadam Waredydd di, Jacob.

← Llyfr Eseia 48Read In The App, Free →Llyfr Eseia 50 →

Study Llyfr Eseia 49

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566