Llyfr Eseia 51:2
Edrychwch ar Abraham eich tad, ac ar Sara a’ch eagorodd: canys ei hunan y gelwais ef, ac y bendithiais, ac yr amlheais ef. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 12:1Pharaoh, wedi ei dwyn hi oddi arno ef, a gymhellir gan bläau i’w rhoddi hi yn ei hol. A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, Dos allan o’th wlad, ac oddi wrth dy genedl, ac o dŷ dy dad, i’r wlad a ddangoswyf i ti.
Genesis 13:14¶ A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, wedi ymneillduo o Lot oddi wrtho ef, Cyfod dy lygaid, ac edrych o’r lle yr wyt ynddo, tu a’r gogledd, a’r dehau, a’r dwyrain, a’r gorllewin.
Genesis 15:4Ac wele air yr Arglwydd atto ef, gan ddywedyd, Nid hwn fydd dy etifedd, onid un a ddaw allan o’th ymysgaroedd di fydd dy etifedd.
Genesis 22:17Mai gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhâu yr amlhâf dy had, fel sêr y nefoedd, ac fel y tywod yr hwn sydd ar làn y môr; a’th had a feddianna borth ei elynion;
Genesis 24:35A’r Arglwydd a fendithiodd fy meistr yn ddirfawr, ac efe a gynnyddodd: canys rhoddodd iddo ddefaid, a gwartheg, ac arian, ac aur, a gweision, a morwynion, a chamelod, ac asynod.
Joshua 24:3Ac mi a gymmerais eich tad Abraham ymaith o’r tu hwnt i’r afon, ac a’i harweiniais ef trwy holl wlad Canaan, ac a amlheais hefyd ei had ef, ac a roddais iddo Isaac.