The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 51

1GWRANDEWCH arnaf fi, ddilynwyr cyfiawnder, y rhai a geisiwch yr AR¬GLWYDD: edrychwch ar y graig y’ch naddwyd, ac ar geudod y ffos y’ch cloddiwyd ohonynt. º

2Edrychwch ar Abraham eich tad, ac ar Sara a’ch eagorodd: canys ei hunan y gelwais ef, ac y bendithiais, ac yr amlheais ef. º

3Oherwydd yr ARGLWYDD a gysura Seion: efe a gysura ei holl anghyfaneddleoedd hi; gwna hefyd ei hanialwch hi fel Eden, a’i diffeithwch fel gardd yr ARGLWYDD: ceir ynddi laweoydd a hyfrydwch, diolch, a llais can. º

4Gwrandewch arnaf, fy mhobl; clustymwrandewch â mi, fy nghenedl: canys cyfraith a â allan oddi wrthyf, a gosodaf fy marn yn oleuni pobloedd. º

5Agos yw fy nghyfiawnder; fy iachawdwriaeth a aeth allan, fy mreichiau hefyd a farnant y bobloedd: yr ynysoedd a ddisgwyliant wrthyf, ac a ymddiriedant yn fy mraich. º

6Dyrchefwch eich llygaid tua’r nefoedd, ac edrychwch ar y ddaear isod: canys y nefoedd a ddarfyddant fel mwg, a’r ddaear a heneiddia fel dilledyn, a’i phreswylwyr yr un modd a fyddant feirw; ond fy iachawdwriaeth i a fydd byth, a’m cyfiawnder ni dderfydd. º

7Gwrandewch arnaf, y rhai a adwaenoch gyfiawnder, y bobl sydd â’m cyfraith yn eu calon: nac ofnwch waradwydd dynion, ac nac arswydwch rhag eu difenwad. º

8Canys y pryf a’u bwyty fel dilledyn, a’r gwyfyn a’u hysa fel gwlân: eithr fy nghyfiawnder a fydd yn dragywydd, a’m, hiachawdwriaeth o genhedlaeth i genhedlaeth. º

9Deffro, deffro, gwisg nerth, O’ fraich yr ARGLWYDD; deffro, fel yn y dyddiau gynt, yn yr oesoedd gynt. Onid ti yw yr hwn a dorraist Rahab, ac a archollaisi y ddraig? º

10Onid ti yw yr hwn a sychaist y môr dyfroedd y dyfnder mawr? yr hwn a wnaethost ddyfnderoedd y môr yn ffordd i’r gwaredigion i fyned drwodd? º

11Am hynny y dychwel gwaredigion yr ARGLWYDD, a hwy a ddeuant i Seion a chanu, ac a llawenydd tragwyddol as-eu pennau: goddiweddant lawenydd a-hyfrydwch; gofid a griddfan a ffy ymaith. º

12Myfi, myfi, yw yr hwn a’ch diddana chwi: pwy wyt ti, fel yr ofnit ddyn, yr hwn fydd farw; a mab dyn, yr hwn a-wceir fel glaswelltyn? º

13Ac a anghofi yr ARGLWYDD dy Wneuthurwr, yr hwn a estynnodd y nefoedd, ac a seiliodd y ddaear? ac a OTnaist bob dydd yn wastad rhag llid y gorthrymydd, fel pe darparai i ddinistrio?’ pha le y mae llid y gorthrymydd? º

14Y carcharor sydd yn brysio i gael ei ollwng yn rhydd, fel na byddo farw yn y pwll, ac na phallo ei fara ef. º

15Eithr myfi yw yr ARGLWYDD dy E)DUW, yr hwn a barthodd y môr, pan ruodd ei donnau: ei enw yw ARGLWXDD y.lluoedd. º

16Gosodais hefyd fy ngeiriau yn dy enau, ac yng nghysgod fy llaw y’th doais, fel y plannwn y nefoedd, ac y seiliwn y ddaear, ac y dywedwn wrth Seion, Fy mhobl ydwyt. º

17Deffro, deffro, cyfod, Jerwsalem, yr hon a yfaist o law yr ARGLWYDD gwpan ei lidiowgrwydd ef, yfaist waddod y cwpan erchyll, ie, sugnaist ef. º

18Nid oes arweinydd iddi o’r holt feibion a esgorodd; ac nid oes a ymaflo yn ei llaw o’r holl feibion a fagodd. º

19Y ddau beth hyn a ddigwyddasant i ti; pwy a ofidia trosot? dinistr a distryw, a newyn a chleddyf; trwy bwy y’th gysuraf? º

20Dy feibion a lewygasant, gorweddant ym mben pob heol, fel tarw gwyllt mewn magi: llawn ydynt o lidiowgrwydd yr ARGLWYDD, a cherydd dy DDUW. º

21Am hynny gwrando fi yn awr, y druan, a’r feddw, ac nid irwy win. º

22Fel hyn y dywed dy Arglwydd, yr ARGLWYDD, a’th DDUW di, yr hwn a ddadlau dros ei bobl, Wele, cymerais o’th law y cwpan erchyll, sef gwaddod cwpan fy llidiowgrwydd: ni chwanegi ai yfed mwy: º

23Eithr rhoddaf ef yn llaw dy gystuddwyr; y rhai a ddywedasant wrth dy enaid, Gostwng, fel yr elom drosot: a thi a osodaist dy gorff fel y llawr, ac fel heol i’r rhai a elent drosto.

← Llyfr Eseia 50Read In The App, Free →Llyfr Eseia 52 →

Study Llyfr Eseia 51

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566