Llyfr Eseia 51:20
Dy feibion a lewygasant, gorweddant ym mben pob heol, fel tarw gwyllt mewn magi: llawn ydynt o lidiowgrwydd yr ARGLWYDD, a cherydd dy DDUW. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
21Am hynny gwrando fi yn awr, y druan, a’r feddw, ac nid irwy win. º
Cross References
Deuteronomy 14:5Y carw, a’r iwrch, a’r llwdn hydd, a’r bwch gwŷllt, a’r unicorn, a’r ŷch gwŷllt, a’r afr wŷllt.
Isaiah 5:25Am hynny yr enynnodd llid yr AR¬GLWYDD yn erbyn ei bobl, ac yr estynnodd efe ei law arnynt, ac a’u trawodd hwynt; a chrynodd y mynyddoedd, a bu eu celanedd hwynt yn rhwygedig yng nghanol yr heolydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef wedi ei hestyn allan.
Isaiah 9:19Gan ddigofaint ARGLWYDD y liuoedd y tywylla y ddaear, ac y bydd y bobl fel ymborth tân: nid eiriach neb ei frawd. º
Isaiah 40:30Canys yr ieuenctid a ddiflygia ac a flina, a’r gwŷr ieuainc gan syrthio a syrthiant: º
Isaiah 51:17Deffro, deffro, cyfod, Jerwsalem, yr hon a yfaist o law yr ARGLWYDD gwpan ei lidiowgrwydd ef, yfaist waddod y cwpan erchyll, ie, sugnaist ef. º
Jeremiah 14:16A’r bobl y rhai y maent yn proff¬wydo iddynt, a fyddant wedi eu taflu allan yn heolydd Jerwsalem, oherwydd y newyn a’r cleddyf; ac ni bydd neb i’w claddu, hwynt-hwy, na’u gwragedd, na’u meibion, na’u merched: canys mi a dywalltaf arnynt eu drygioni.