Llyfr Eseia 55:11
Felly y bydd fy ngair, yr hwn a ddaw o’m genau: ni ddychwel ataf yn wag; eithr efe a wna yr hyn a fynnwyf, ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o’i blegid. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Isaiah 45:23I mi fy hun y tyngais, aeth y gair o’m genau mewn cyfiawnder, ac m ddychwel, Mai i mi y plyga pob glin, y twng pob tafod. º
Isaiah 54:9Canys fel dyfroedd Noa y mae hyn i mi: canys megis y tyngais nad elai dyfroedd Noa mwy dros y ddaear; felly y tyngais na ddigiwn wrthyt, ac na’th geryddwn. º
Jeremiah 1:12A dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Da y gwelaist; canys mi a brysuraf fy ngair i’w gyflawni.
Jeremiah 25:13Dygaf hefyd ar y wlad honno fy holl eiriau, y rhai a lefarais i yn ei herbyn, sef cwbl ag sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn; yr hyn a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd. º
Matthew 24:35Nef a daear a ânt heibio, eithr fy ngeiriau i nid ânt heibio ddim.