Llyfr Eseia 55
1Odeuwch i’r dyfroedd, bob un y mae syched arno, ie, yr hwn nid oes arian ganddo; deawch, prynwch, a bwytewch; ie, deuwch, prynwch win a llaeth, heb arian, ac heb werth. º
2Paham y gweriwch arian am yr hyn nid ydyw fara? a’ch llafur am yr hyn nid yw yn digoni? gan wrando gwrandewch arnaf fi, a bwytewch yr hyn sydd dda; ac ymhyfryded eich enaid mewn braster. º
3Gogwyddwch eich dust, a deuwch ataf; gwrandewch, a bydd byw eich enaid: a mi a wnaf gyfamod tragwyddol a chwi, sef sicr drugareddau Dafydd. º
4Wele, rhoddais ef yn dyst i’r bobl, yn flaenor ac yn athro i’r bobloedd. º
5Wele, cenedl nid adwaeni a eiwi, a chenhedloedd ni’th adwaenai di a red atat, er mwyn yr ARGLWYDD dy DDUW, ac oberwydd Sanct Israel: canys efe a’th ogoneddodd. º
6Ceisiwch yr ARGLWYDD, tra y galler ei gael ef; gelwch saws, tra fyddo yn agos. º
7Gadawed y drygionus ei ffordd, a’r gŵr anwir ei feddyliau; a dychweled at yr ARGLWYDD, ac efe a gymer drugaredd arno; ac at ein Duw ni, oherwydd efe a arbed yn helaeth. º
8Canys nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi, ac nid eich ffyrdd chwi yw fy ffyrdd i, medd yr ARGLWYDD. º
9Canys fel y mae y nefoedd yn uwch na’r ddaear, felly uwch yw fy ffyrdd i na’ch ffyrdd chwi, a’m meddyliau i na’ch meddyliau chwi. º
10Canys fel y disgyn y glaw a’r eira o’r nefoedd, ac ni ddychwel yno, eithr dyfrha y ddaear, ac a wna iddi darddu a thyfu, fel y rhoddo had i’r heuwr, a bara i’r bwytawr: º
11Felly y bydd fy ngair, yr hwn a ddaw o’m genau: ni ddychwel ataf yn wag; eithr efe a wna yr hyn a fynnwyf, ac a lwydda yn y peth yr anfonais ef o’i blegid. º
12Canys mewn llawenydd yr ewch allan, ac mewn hedd y’ch arweinir; y mynyddoedd a’r bryniau a floeddiant ganu o’ch blaen, a holl goed y maes a gurant ddwylo. º
13Yn lle drain y cyfyd ffynidwydd, yn lle mieri y cyfyd myrtwydd: a hyn fydd i’r ARGLWYDD yn enw, ac yn arwydd tragwyddol yr hwn ni thorrir ymaith.