Llyfr Eseia 57:12
Myfi a fynegaf dy gyfiawnder, a’th weithredoedd: canys ni wnânt i ti les. º
Beibl (1620)
In The King James Version
I will declare thy righteousness, and thy works; for they shall not profit thee.
In Context
Cross References
Isaiah 1:11Beth yw lluosowgrwydd eich aberthau i mi? medd yr ARGLWYDD: llawn ydwyf o boethaberthau hyrddod, ac o fraster anifeiliaid breision; gwaed bustych hefyd, ac ŵyn, a bychod, nid ymhyfrydais ynddynt.
Isaiah 44:9Oferedd ydynt hwy oll y rhai a luniant ddelw gerfiedig; ni wna eu pethau dymimol lesad: tystion ydynt iddynt eu hun, na welant, ac na wyddant; fel y byddo cywilydd arnynt. º
Isaiah 59:6Eu gweoedd hwy ni byddant yn wisgoedd, ac nid ymddilladant a’u gweithredoedd: eu gweithredoedd ydynt weithredoedd anwiredd, a gwaith trawster sydd yn eu dwylo. º
Isaiah 66:3Yr hwn a laddo ych, sydd fel yr hwn a laddo ŵr; yr hwn a abcrtho oen, sydd fel yr hwn a dorfynyglo gi; yr hwn a offrymo offrwm, sydd fel ped offrymai waed moch; yr hwn a arogl-dartho thus, sydd fel pe bendigai eilun: ie, hwy a ddewisasant eu ffyrdd eu hun, a’u henaid a ymhyfrydodd yn eu ffieidd-dra. º
Jeremiah 10:11Fel hyn y dywedwch wrthynt; Y duwiau ni wnaethant y nefoedd a’r ddaear, difethir hwynt o’r ddaear, ac oddi tan y nefoedd.
Jeremiah 10:15Oferedd ŷnt, a gwaith cyfeiliorni: yn amser eu gofwy y difethir hwynt.