The Bible Software
Llyfr Eseia · Beibl (1620)

Llyfr Eseia 57

1DARFU am y cyfiawn, ac ni esyd neb at ei galon; a’r gwŷr trugarog a gymerir ymaith, heb neb yn deall mai o flaen drygfyd y cymerir y cyfiawn ymaith.

2Efe a â i dangnefedd: hwy a orffwys- aat yn eu hystafelloedd, sef pob un a TOdia yn ei uniondeb. º

3Nesewch yma, meibion yr hudoles, had y godinebus a’r butain. º

4Yn erbyn pwy yr ymddigrifwch? yn erbyn pwy y lledwch safn, ac yr estynnwch dafod? onid meibion camwedd a had ffalsedd ydych chwi? º

5Y rhai a ymwresogwch ag eilunod dan bob pren deiliog, gan ladd y plant yn y glynnoedd dan gromlechydd y creigiau. º

6Yng nghabolfeini yr afon y mae dy ran; hwynt-hwy yw dy gwtws: iddynt hwy hefyd y tywelltaist ddiod-offrwm, ac yr offrymaist fwyd-offrwm. Ai yn y rhai hyn yr ymgysurwn? º

7Ar fynydd uchel a dyrchafedig y gosodaist dy wely: dringaist hefyd yno i aberthu aberth. º

8Yng nghil y drysau hefyd a’r pyst y gosodaist dy goffadwriaeth: canys ymddi-noethaist i arall heb fy llaw i, a dringaist; helaethaist dy wely, ac a wnaethost amod rhyngot a hwynt; ti a hoffaist eu gorweddle hwynt pa le bynnag y gwelaist. º

9Cyfeiriaist hefyd at y brenin ag ennaint, ac amlheaist dy beraroglau: anfonaist hefyd dy genhadau i bell, ac ymostyngaist hyd uffern. º

10Ym maim dy ffordd yr ymflinaist; ac ni ddywedaist, Nid oes obaith: cefaist fywyd dy law; am hynny ni chlefychaist. º

11Pwy hefyd a arswydaist ac a ofnaist, fel y dywedaist gelwydd, ac na chofiaist fi, ac nad ystvriaist yn dy galon? oni thewais i a son er ys talm, a thithau heb fy ofni? º

12Myfi a fynegaf dy gyfiawnder, a’th weithredoedd: canys ni wnânt i ti les. º

13Pan waeddech, gwareded dy gynulleidfaoedd di: eithr y gwynt a’u dwg hwynt ymaith oll; oferedd a’u cymer hwynt: ond yr hwn a obeithia ynof fi a etifedda y tir, ac a feddianna fynydd fy sancteiddrwydd. º

14Ac efe a ddywed, Palmentwch, palmentwch, paratowch y ffordd, cyfoSwch y rhwystr o ffordd fy mhobl. º

15Canys fcl hyn y dywed y Goruchel a’r dyrchatedig, yr hwn a breswylia dragwyddoldeb, ac y mae ei enw yn Sanctaidd, Y goruchelder a’r cysegr a breswyliaf; a chyda’r cystuddiedig a’r isel o ysbryd, i fywhau y rhai isel o ysbryd, ac i fywhau calon y rhai cystudd¬iedig. º

16Canys nid byth yr ymrysonaf, ac nid yn dragywydd y digiaf: oherwydd yr ysbryd a ballai o’m blaen i, a’r eneidiau a wneuthum i. º

17Am anwiredd ei gybydd-dod ef y digiais, ac y trewais ef: ymguddiais, a digiais, ac efe a aeth rhagddo yn gildynnus ar hyd ffordd ei galon. º

18Ei ffyrdd a welais, a mi a’i hiachaf ef: tywysaf ef hefyd, ac adferaf gysur iddo, ac i’w alarwyr. º

19Myfi sydd yn creu ffrwyth y gwefusau; Heddwch, heddwch, i bell, ac i agos, medd yr ARGLWYDD: a mi a’i hiachaf ef. º

20Ond y rhai anwir sydd fel y môr yn dygyfor, pan na allo fod yn llonydd, yr hwn y mae ei ddyfroedd yn bwrw allan dom a llaid. º

21Ni bydd heddwch, medd fy Nuw, i’r rhai annuwiol.

← Llyfr Eseia 56Read In The App, Free →Llyfr Eseia 58 →

Study Llyfr Eseia 57

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

123456789101112131415161718192021222324252627282930313233343536373839404142434445464748495051525354555657585960616263646566