Llyfr Eseia 58:7
Onid torri dy fara i’r newynog, a dwyn ohonot y crwydraid i dy? a phan welych y noeth, ei ddilladu; ac nad ymguddiech oddi wrth dy gnawd dy hun? º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 19:2Ac efe a ddywedodd, Wele yn awr, fy Arglwyddi, trowch, attolwg, i dŷ eich gwas; lletŷwch heno hefyd, a golchwch eich traed: yna codwch yn fore, ac ewch i’ch taith. A hwy a ddywedasant, Nag ê; o herwydd nyni a arhoswn heno yn yr heol.
Judges 9:2Dywedwch, atolwg, lle y clywo holl wŷr Sichem, Pa un orau i chwi, ai arglwyddiaethu arnoch o ddengwr a thrigain, sef holl feibion Jerwbbaal, ai arglwyddiaethu o un gŵr arnoch? cofiwch hefyd mai eich asgwrn a’ch cnawd chwi ydwyf fi. º
2 Chronicles 28:15A’r gwŷr, y rhai a enwyd wrth eu henwau, a gyfodasant ac a gymerasant y gaethglud, ac a ddilladasant eu holl rai noethion hwynt a’r ysbail, a dilladasant hwynt, a rhoddasant iddynt esgidiau, ac a wnaethant iddynt fwyta ac yfed; eneiniasant hwynt hefyd, a dygasant ar asynnod bob un llesg, ie, dygasant hwynt i Jericho, dinas y palmwydd, at eu brodyr. Yna hwy a ddychwelasant i Samaria.
Job 22:7Ni roddaist ddwfr i’w yfed i’r lluddedig; a thi a ateliaist fara oddi wrth y newynog.
Job 31:19Os gwelais neb yn marw o eisiau dillad, a’r anghenog neb wisg:
Proverbs 11:17Gŵr trugarog sydd dda wrth ei enaid ei hun: ond y creulon a flina ei gnawd ei hun.