Llyfr Eseia 58
1LLEFA a’th geg, nac arbed, dyrchafa dy lais fel utgorn, a mynega i’m pobl eu camwedd, a’u pechodau i dŷ Jacob. º
2Eto beunydd y’m ceisiant, ac a ewyllysiant wybod fy ffyrdd, fel cenedl a wnelai gyfiawnder, ac ni wrthodai farnedigaeth ei Duw: gofynnant i’ mi farnedigaethau cyfiawnder, ewyllysiant nesau at DDUW. º
3Paham, meddant, yr ymprydiasom, ac ms gwelaist? y cystuddiasom ein henaid, ac nis gwybuost? Wele, yn y dydd yr ymprydioch yr ydych yn cael gwynfyd, ac yn mynnu eich holl ddyledion. º
4Wele, i ymryson â chynnen yr ymprydiwch, ac i daro a dwrn anwiredd: nac ymprydiwch fel y dydd hwn, i beri clywed eich llais yn yr uchelder. º
5Ai dyma yr ympryd a ddewisais? dydd i ddyn i gystuddio ei enaid? ai crymu ei ben fel brwyaen ydyw, a thaemi sachliain a lludw daflo? ai hyn a eiwi yn ympryd, ac yn ddiwrnod cymeradwy gan yr ARGLWYDD? º
6Onid dyma yr ympryd a ddewisais? datod rhwymau anwiredd, tynnu ymaith feichiau trymion, a gollwng y rhai gorthrymedig yn rhyddion, a thorri ohonoch bob iau? º
7Onid torri dy fara i’r newynog, a dwyn ohonot y crwydraid i dy? a phan welych y noeth, ei ddilladu; ac nad ymguddiech oddi wrth dy gnawd dy hun? º
8Yna y tyr dy oleuni allan fel y wawr, a’th iechyd a dardda yn fuan: a’th gyfiawnder a â o’th flaen; gogoniant yr ARGLWYDD a’th ddilyn. º
9Yna y geiwi, a’r ARGLWYDD a etyb; y gwaeddi, ac efe a ddywed, Wele fi. Os bwri o’th fysg yr iau, estyn bys, a dy-wedyd oferedd; º
10Os tynni allan dy enaid i’r newynog, a diwallu yr enaid cystuddiedig: yna dy oleuni a gyfyd mewn tywyllwch, a’th dywyllwch fydd fel hanner dydd: º
11A’r ARGLWYDD a’th arwain yn wag.’" tad, ac a ddiwalla dy enaid ar sychder, ac a wna dy esgyrn yn freision: a thi a fyddi fel gardd wedi ei dyfrhau, ac megis ffynnon ddwfr, yr hon ni phalla ei dyfr oedd. º
12A’r rhai a fyddant ohonot ti a adeil-adant yr hen ddiffeithleoedd; ti a gyfodi sylfeini llawer cenhedlaeth: a thi a elwir yn gaewr yr adwy, yn gyweiriwr llwybrau i gyfanheddu ynddynt. º
13O throi dy droed oddi wrth y Saboth, heb wneuthur dy ewyllys ar fy nydd sanctaidd; a galw y Saboth yn hyfrydwch, sanct yr ARGLWYDD yn ogoneddus; a’i anrhydeddu ef, heb wneuthur dy ffyrdd dy hun, heb geisio dy ewyllys dy hun, na dywedyd dy eiriau dy hun: º
14Yna yr ymhyfrydi yn yr ARGLWYDD, ac mi a wnaf i ti farchogaeth ar uchel-feydd y ddaear, ac a’th borthaf ag cliteddlaeth Jacob dy dad: canys genau yr AR¬GLWYDD a’i llefarodd.