Llyfr Eseia 60:12
Canys y genedl a’r deyrnas ni’th wasanaetho di, a ddifethir; a’r cenhed¬loedd hynny a lwyr ddinistrir. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Isaiah 14:2Y bobl hefyd a’u cymer hwynt, ac a’u dygant i’w lle, a thŷ Israel a’u meddianna hwynt yn nhir yr ARGLWYDD, yn weision ac yn forynion: a hwy a gaethiwant y rhai a’u caethiwodd hwythau, ac a lywodraethant ar eu gorthrymwyr. º
Isaiah 54:15Wele, gan ymgasglu hwy a ymgasg-lant, ond nid ohonof fi: pwy bynnag ohonot ti a ymgasglo i’th erbyn, efe a syrth. º
Daniel 2:35Yna yr haearn, y pridd, y pres, yr arian, a’r aur, a gydfaluriasant, ac oeddynt fel mân us yn dyfod o’r lloriau dyrnu haf; a’r gwynt a’u dug hwynt ymaith, ac ni chaed lle iddynt; a’r garreg yr hon a drawodd y ddelw a aeth yn fynydd mawr, fel ac a lanwodd yr holl ddaear.
Zechariah 12:2Wele fi yn gwneuthur Jerwsalem yn ffiol gwsg i'r bobloedd oll o amgylch, pan fyddont yn y gwarchae yn erbyn Jwda, ac yn erbyn Jerwsalem.
Zechariah 14:17A phwy bynnag nid êl i fyny o deuluoedd y ddaear i Jerwsalem, i addoli y Brenin, ARGLWYDD y lluoedd, ni bydd glaw arnynt.
Matthew 21:44A phwy bynnag a syrthio ar y maen hwn, efe a ddryllir: ac ar bwy bynnag y syrthio, efe a’i mâl ef yn chwilfriw.