Llyfr Eseia 60
1CYFOD, llewyrcha; canys daeth dy oleuni, a chyfododd gogoniant yr ARGLWYDD arnat. º
2Canys wele, tywyllwch a orchuddia y ddaear, a’r fagddu y bobloedd: ond amat ti y cyfyd yr ARGLWYDD, a’i ogoniant a welir arnat. º
3Cenhedloedd hefyd a rodiant at dy oleuni, a brenhinoedd at ddisgleirdeb dy gyfodiad. º
4Cytbd dy lygaid oddi amgylch, ac edrych; ymgasglasant oll, daethant atat: dy feibion a ddeuant o bell, a’th ferched a fegir wrth dy ystlys. º
5Yna y cei weled, ac yr ymddisgleiri; dy galon hefyd a ofna, ac a helaethir; am droi atat luosowgrwydd y môr, golud y cenhedloedd a ddaw i ti. º
6Lliaws y camelod a’th orchuddiant, sef cyflym gamelod Midian ac Effa; hwynt oll o Seba a ddeuant; aur a thus a ddygant; a moliant yr ARGLWYDD a fynegant. º
7Holl ddefaid Cedar a ymgasglant atat ti, hyrddod Nebaioth a’th wasanaethant: hwy a ddeuant i fyny yn gymeradwy ar fy allor, a mi a anrhydeddaf dy fy ngogoniant. º
8Pwy yw y rhai hyn a ehedant fel ewmwl, ac fel colomennod i’w ffenestri? º
9Yn ddiau yr ynysoedd a’m disgwyliant, a llongau Tarsis yn bennaf, i ddwyn dy feibion o bell, eu harian hefyd a’u haur gyda hwynt, i enw yr ARGLWYDD dy DDUW, ac i Sanct Israel, am iddo dy ogoneddu di. º
10A meibion dieithr a adeiladant dy furiau, a’u brenhinoedd a’th wasanaeth¬ant; canys yn fy nig y’th drewais, ac o’m hewyllys da fy hun y tosturiais wrthyt. º
11Am hynny dy byrth a fyddant yn agored yn wastad, ni chaeir hwynt na dydd na nos, i ddwyn atat olud y cenhedloedd, fel y dyger eu brenhinoedd hwynt hefyd. º
12Canys y genedl a’r deyrnas ni’th wasanaetho di, a ddifethir; a’r cenhed¬loedd hynny a lwyr ddinistrir. º
13Gogoniant Libanus a ddaw atat, y ffynidwydd, ffawydd, a bocs ynghyd, i harddu lle fy nghysegr; harddaf hefyd le fy nhraed. º
14A meibion dy gystuddwyr a ddeuant atat yn ostyngedig: a’r rhai oll a’th ddiystyrasant a ymostyngant wrth wadnau dy draed, ac a’th alwant yn Ddinas yr ARGLWYDD, yn Seion Sanct Israel. º
15lle y buost yn wrthodedig, ac yn gas, ac heb gyniweirydd trwot, gwnaf di yn ardderchowgrwydd tragwyddol, ac yn llawenydd i’r holl genedlaethau. º
16Sugni hefyd laeth y cenhedloedd, ie, bronnau brenhinoedd a sugni; a chei wybod mai myfi yr ARGLWYDD yw dy Achubydd, a’th Waredydd yw cadarn Dduw Jacob. ‘ º
17Yn lle pres y dygaf aur, ac yn lle * haearn y dygaf arian, ac yn lle coed, bres, ac yn lle cerrig, haearn; a gwnaf dy swyddogion yn heddychol, a’th drethwyr yn gyfiawn. º
18Ni chlywir mwy son am drais yn dy wlad, na distryw na dinistr yn dy derfynau: eithr ti a eiwi dy fagwyrydd yn Iachawdwriaeth, a’th byrth yn Foliant. º
19Ni bydd yr haul i ti mwyach yn oleuni y dydd, a’r lleuad ni oleua yn llewyrch i ti: eithr yr ARGLWYDD fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a’th DDUW yn ogoniant i ti. º
20Ni fachluda dy haul mwyach, a’th leuad ni phalla: oherwydd yr ARGLWYDD fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a dyddiau dy alar a ddarfyddant. º
21Dy bobl hefyd fyddant gyfiawn oll: etifeddant y tir byth, sef blaguryn fy mhlanhigion, gwaith fy nwylo, fel y’m gogonedder. º
22Y bychan a fydd yn fil, a’r gwael yn genedl gref. Myfi yr ARGLWYDD a brysuraf hynny yn ei amser.