Llyfr Eseia 60:20
Ni fachluda dy haul mwyach, a’th leuad ni phalla: oherwydd yr ARGLWYDD fydd i ti yn oleuni tragwyddol, a dyddiau dy alar a ddarfyddant. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Psalms 27:1Dafydd. Barn fi, ARGLWYDD; canys rhodiais yn fy mherffeithrwydd: ymddiriedais hefyd yn yr ARGLWYDD: am hynny ni lithraf.
Isaiah 25:8Efe a lwnc angau mewn buddugoliaeth; a’r Arglwydd DDUW a sych ymaith ddagraa oddi ar bob wyneb; ac efe a dynn ymaith warthrudd ei bobl oddi ar yr holl ddaear: canys yr ARGLWYDD a’i llefarodd. º
Isaiah 30:26A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul, a llewyrch yr haul fydd saith mwy, megis llewyrch saith niwrnod, yn y dydd y rhwyma yr ARGLWYDD friw el bobl, ac yr iachao archoll eu dyrnod hwynt. º
Isaiah 65:19Gorfoleddaf hefyd yn Jerwsalem, a llawenychaf yn fy mhobl: ac ni chlywir ynddi mwyach lais wylofain, na llef gwaedd. º
Zechariah 14:7Ond bydd un diwrnod, hwnnw a adwaenir gan yr ARGLWYDD, nid dydd, ac nid nos; ond bydd goleuni yn yr hwyr.
Revelation 7:15Oherwydd hynny y maent gerbron gorseddfainc Duw, ac yn ei wasanaethu ef ddydd a nos yn ei deml: a’r hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc a drig yn eu plith hwynt.