Llyfr Eseia 61:2
I gyhoeddi blwyddyn gymeradwy yr ARGLWYDD, a dydd dial ein Duw ni; i gysuro pob galarus; º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Leviticus 25:9Yna pâr ganu i ti udgorn y jubili ar y seithfed mis, ar y degfed dydd o’r mis; ar ddydd y cymmod cenwch yr udgorn trwy eich holl wlad.
Leviticus 25:13O fewn y flwyddyn jubili hon y dychwelwch bob un i’w etifeddiaeth.
Isaiah 25:8Efe a lwnc angau mewn buddugoliaeth; a’r Arglwydd DDUW a sych ymaith ddagraa oddi ar bob wyneb; ac efe a dynn ymaith warthrudd ei bobl oddi ar yr holl ddaear: canys yr ARGLWYDD a’i llefarodd. º
Isaiah 35:4Dywedwch wrth y rhai ofnus o galon, Ymgryfhewch, nac ofnwch: wele, eich Duw chwi a ddaw a dial, ie, Buw a thaledigaeth; efe a ddaw, ac a’ch achub chwi.; º
Isaiah 51:12Myfi, myfi, yw yr hwn a’ch diddana chwi: pwy wyt ti, fel yr ofnit ddyn, yr hwn fydd farw; a mab dyn, yr hwn a-wceir fel glaswelltyn? º
Isaiah 59:17Canys efe a wisgodd gyfiawnder fel llurig, a helm iachawdwriaeth am ei ben; ac a wisgodd wisgoedd dial yn ddillad; ie, gwisgodd sel fel cochl. º