Llyfr Eseia 61
1YSBRYD yr ARGLWYDD DDUW sydd arnaf; oherwydd yr ARGLWYDD a’m heneiniodd i efengylu i’r rhai llariaidd; efe a’m hanfonodd i rwymo y rhai ysig eu calon, i gyhoeddi rhyddid i’r caethion, ac agoriad carchar i’r rhai sydd yn rhwym; º
2I gyhoeddi blwyddyn gymeradwy yr ARGLWYDD, a dydd dial ein Duw ni; i gysuro pob galarus; º
3I osod i alarwyr, Seion, ac i roddi iddynt ogoniant yn lle lludw, olew llawenydd yn lle galar, gwisg moliant yn lle ysbryd cystuddiedig; fel y gelwid hwynt yn brennau cyfiawnder, yn blanhigyn yr ARGLWYDD, fel y gogonedder ef. º
4Adeiladant hefyd yr hen ddiffeithfa, cyfodant yr anghyfanheddfa gynt, ac adnewyddant ddinasoedd dinaith, ac anghyfanhedd-dra llawer oes. º
5A dieithriaid a safant ac a borthant eich praidd, a meibion dieithr fydd arddwyr a gwinllanwyr i chwi. º
6Chwithau a elwir yn offeiriaid i’r ARGLWYDD: Gweinidogion ein Duw ni, meddir wrthych; golud y cenhedloedd a fwynhewch, ac yn eu gogoniant hwy yr ymddyrchefwch. º
7Yn lle eich cywilydd y cewch ddauddyblyg; ac yn lle gwaradwydd hwy a lawenychant yn eu rhan: am hynny yn y tir y meddiannant ran ddwbl; llawenydd tragwyddol fydd iddynt. º
8Canys myfi yr ARGLWYDD a hoffaf gyfiawnder; yr wyf yn casáu trais yn boethoffrwrn, ac a gyfarwyddaf eu gwaith mewn gwirionedd, ac a wnaf a hwynt gyfamod tragwyddol. º
9Eu had hwynt hefyd a adwaenir ymysg y cenhedloedd, a’u hiliogaeth hwynt yng nghanol y bobl: y rhai a’u gwelant a’u hadwaenant, mai hwynt-hwy yw yr had a fendithiodd yr ARGLWYDD. º
10Gan lawenychu y llawenychaf yn yr ARGLWYDD, fy enaid a orfoledda yn fy NUW: canys gwisgodd fi a gwisgoedd iachawdwriaeth, gwisgodd â mantell cyfiawnder; megis y mae priodfab yn ymwisgo a harddwisg, ac fel yr ymdrwsia priodferch a’i thiysau. º
11Canys megis y gwna y ddaear i’w gwellt dyfu, ac fel y gwna gardd i’w hadau egino, felly y gwna yr Arglwydd IOR i gyfiawnder a moliant darddu gerbron yr holl genhedloedd.