Llyfr Eseia 65:9
Eithr dygaf had allan o Jacob, ac o Jwda un a etifeddo fy mynyddoedd: a’m hetholedigion a’i hetifeddant, a’m gweision a drigant yno. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Isaiah 11:11Bydd hefyd yn y dydd hwnnw, i’r Arglwydd fwrw eilwaith ei law i feddiannu gweddill ei bobl, y rhai a weddillir gan Asyria, a chan yr Aifft, a chan Pathros, a chan Ethiopia, a chan Elam, a chan Sinar, a chan Hamath, a chan ynysoedd y môr. º
Isaiah 32:18A’m pobl a drig mewn preswylfa heddychlon, ac mewn anheddau diogel, ac mewn gorffwysfaoedd llonydd. º
Isaiah 60:21Dy bobl hefyd fyddant gyfiawn oll: etifeddant y tir byth, sef blaguryn fy mhlanhigion, gwaith fy nwylo, fel y’m gogonedder. º
Isaiah 65:22Nid adeiladant hwy, fel y cyfanheddo arall; ac ni phlannant, fel y bwytao arall: eithr megis dyddiau pren y bydd dyddiau fy mhobl, a’m hetholedigion a hir fwynhânt waith eu dwylo. º
Jeremiah 33:17Canys fel hyn y dywed yr AR¬GLWYDD, Ni phalla i Dafydd ŵr yn eistedd ar frenhinfainc tŷ Israel. º
Ezekiel 36:12Ie, gwnaf i ddynion rodio amoch, sef fy mhobl Israel; a hwy a'th etifeddant di, a byddi yn etifeddiaeth iddynt, ac m ychwanegi eu gwneuthur hwy yn amddi-faid mwy.