Llyfr Eseia 8:10
Ymgynghorwch gyngor, ac fe a ddiddymir; dywedwch y gair, ac ni saif: canys y mae Duw gyda ni. º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Deuteronomy 20:1Ni wasanaetha dinystrio prennau ymborth dyn, wrth warchae ar ddinas. Pan elych i ryfel yn erbyn dy elynion, a gweled meirch a cherbydau, a phobl fwy na thi, nac ofna rhagddynt: o herwydd yr Arglwydd dy Dduw fydd gyd â thi, yr hwn a’th ddug di i fynu o dir yr Aipht.
2 Samuel 15:31A mynegwyd i Dafydd, gan ddywedyd, Y mae Ahitoffel ymysg y cydfwriadwyr gydag Absalom. A Dafydd a ddywedodd, O Arglwydd, tro, atolwg, gyngor Ahitoffel yn ffolineb.
2 Samuel 17:23A phan welodd Ahitoffel na wnaethid ei gyngor ef, efe a gyfrwyodd ei asyn, ac a gyfododd, ac a aeth i’w dy ei hun, i’w ddinas, ac a wnaeth drefn ar ei dŷ, ac a ymgrogodd, ac a fu farw, ac a gladdwyd ym meddrod ei dad. º
2 Chronicles 13:12Ac wele, Duw sydd ben gyda ni, a’i offeiriaid ef ag utgyrn soniarus i utganu yn eich erbyn chwi. O feibion Israel, nac ymleddwch yn erbyn ARGLWYDD DDUW eich tadau; canys ni lwyddwch chwi.
Job 5:12Efe sydd yn diddymu amcanion y cyfrwys, fel na allo eu dwylo ddwyn dim i ben.