Llyfr Eseia 8
1AR ARGLWYDD a ddywedodd wrthyf, Cymer i ti rol fawr, ac ysgrifenna arni a phin dyn, am Maher-shalalhas-bas. º
2A chymerais yn dystiolaeth i mi dystion ffyddlon, Ureia yr offeiriad, a Sechareia mab Jeberecheia. º
3A mi a neseais at y broffwydes; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab. Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf, Galw ei enw ef, Maher-shalalhas-bas. º
4Canys cyn y medro y bachgen alw, Fy nhad, nea, Fy main, gclud Damascus ac ysbail Samaria a ddygir ymaith o flaen brenin Asyria. º
5A chwanegodd yr ARGLWYDD lefaru wrthyf drachefn, gan ddywedyd, º
6Oherwydd i’r bobl hyn wrthod dyfroedd Siloa, y rhai sydd yn cerdded yn araf, a chymryd llawenydd o Resin, a mab Remaleia: º
7Am hynny, wele, mae yr Arglwydd yn dwyn arnynt ddyfroedd yr afon, yn gryfion ac yn fawrion, sef brenin Asyria, a’i holl ogonant; ac efe a esgyn ar ei holl afonydd, ac ar ei holl geulennydd ef. º
8Ie, ti-wy Jwda y treiddia ef: efe a lifa, ac a & drosodd, efe a gyrraedd hyd y gwddf; ac estyniad ei adenydd ef fydd llonaid lled dy dir di, O Immanuel. º
9Ymgyfeillechwch, bobloedd, a chwi a ddryllir: gwrandewch, holl belledigion y gwledydd; ymwregyswch, a chwi a ddryllir; ymwregyswch, a chwi a ddryllir. º
10Ymgynghorwch gyngor, ac fe a ddiddymir; dywedwch y gair, ac ni saif: canys y mae Duw gyda ni. º
11Canys fel hyn y dywedodd yr ARGLWYDD wrthyf a llaw gref, ac efe a’m dysgodd na rodiwn yn ffordd y bobl hyn, gan ddywedyd, º
12Na ddywedwch, Cydfwriad, wrth y rhai oll y dywedo y bobl hyn, Cydfwriad: nac ofnwch chwaith eu hofn hwynt, ac na arswydwch. º
13ARGLWYDD y lluoedd ei hun a sancteiddiwch; a bydded efe yn ofn i chwi, a bydded efe yn arswyd i chwi: º
14Ac efe a fydd yn noddfa; ond yn faen tramgwydd ac yn graig rhwystr i ddau dŷ Israel, yn fagi ac yn rhwyd i breswylwyr Jerwsalem. º
15A llawer yn eu mysg a dramgwyddant, ac a syrthiant, ac a ddryllir, ac a rwydir, ac a ddelir. º
16Rhwym y dystiolaeth, selia y gyfraith ymhlith fy nisgyblion. º
17A minnau a ddisgwyliaf am yr AR¬GLWYDD sydd yn cuddio ei wyneb oddi wrth dy Jacob, ac a wyliaf amdano. º
18Wele fi a’r plant a roddes yr AR¬GLWYDD i mi, yn arwyddiou ac yn rhyfeddodau yn Israel: oddi wrth ARGLWYDD’y lluoedd, yr hwn sydd yn trigo ym mynydd Seion. º
19<il A phan ddywedant wrthych, Ymofynnwch a’r swynyddion, ac a’r dewiniaid, y rhai sydd yn hustyng, ac yn sibrwd: onid a’u Duw yr ymofyn pobl? dros y byw at y meirw? º
20At y gyfraith, ac at y dystiotaeth: oni ddywedant yn ôl y gair hwn, hyany sydd am nad oes oleuni ynddynt. º
21A hwy a dramwyant trwyddi, yn galed arnynt ac yn newynog: a bydd pan, newynont, yr ymddigiant, ac y melltithiant eu brenin a’u Duw, ac a edrychant i fyny. º
22A hwy a edrychant ar y ddaear: ac wele drallod a thywyllwch, niwi cyfyngder; a byddant wedi eu gwthio i dywyllwch.