Llyfr Eseia 9:20
Ac efe a gipia ar y llaw ddeau, ac a newyna; bwyty hefyd ar y llaw aswy, ac nis digonir hwynt: bwytânt bawb gig ei fraich ei hun: º
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Isaiah 5:25Am hynny yr enynnodd llid yr AR¬GLWYDD yn erbyn ei bobl, ac yr estynnodd efe ei law arnynt, ac a’u trawodd hwynt; a chrynodd y mynyddoedd, a bu eu celanedd hwynt yn rhwygedig yng nghanol yr heolydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef wedi ei hestyn allan.
Isaiah 10:4Hebof fi y crymant dan y carcharorion, a than y rhai a laddwyd y syrthiant. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond ero y mae ei law ef yn estynedig. º5?I Gwae Assur, gwialen fy llid, a’r ffon yn eu llaw hwynt yw fy nigofaint. º
Jeremiah 19:9A mi a baraf iddynt fwyta cnawd eu meibion, a chnawd eu merched, bwytant hefyd bob un gnawd ei gyfaill, yn y gwarchae a’r cyfyngder, a’r hwn y cyfynga eu gelynion, a’r rhai sydd yn ceisio eu heinioes, arnynt. º
Zechariah 11:9Dywedais hefyd, Ni phorthaf chwi: a fyddo farw, bydded farw; ac y sydd i'w dorri ymaith, torrer ef ymaith, a'r gweddill, ysant bob un gnawd ei gilydd.