Llyfr Eseia 9
1ETO ni bydd y tywyllwch yn ôl yr hyn a fu yn y gofid; megis yn yr amser cyntaf y cyffyrddodd yn ysgafn â thir Sabulon a thir Nafftali, ac wedi hynny yn ddwysach y cystuddiodd hi wrth ffordd y môr, tu hwnt i’r Iorddonen, yn Galilea y cenhedloedd. º
2Y bobl a rodiasant mewn tywyllwch, a welsant oleuni mawr: y rbai sydd yn aros yn nhir cysgod angau y llewyrchodd goleuni arnynt. º
3Amlheaist y genhedlaeth, ni chwanegaist lawenydd; llawenychasant ger dy fron megis y llawenydd amser cynhaeaf, ac megis y llawenychant wrth rannu ysbail. º
4Canys drylliaist iau ei faich ef, a Son ei ysgwydd ef, gwialen ei orthrymwr, megis yn nydd Midian. º
5Canys pob cad y rhyfelwr sydd mewn trwst, a dillad wedi eu trybaeddu mewn gwaed; ond bydd hwn trwy losgiad a chynnud tân. º
6Canys bachgen a aned i ni, mab a roddwyd i ni, a bydd y llywodraeth ar ei ysgwydd ef: a gelwir ei enw ef, Rhyfeddol, Cynghorwr, y Duw cadarn, Tad tragwyddoldeb, Tywysog tangnefedd. º
7Ar helaethrwydd ei lywodraeth a’i flangnefedd ni bydd diwedd, ar orseddfa Dafydd, ac ar ei frenhiniaeth ef, i’w threfnu hi, ac i’w chadarnbau a barn ac a chyfiawnder, o’r pryd hwn, a hyd byth. Sel ARGLWYDD y lluoedd a wna hyn. º
8Yr Arglwydd a anfonodd air i Jacob; ac efe a syrthiodd ar Israel. º
9A’r holl bobl a wybydd, sef Effraim a thrigiannydd Samaria, y rhai a ddywedant mewn balchder, ac mewn mawredd calon, º
10Y priddfeini a syrthiasant, ond a cherrig nadd yr adeiladwn: y sycamorwydd a dorrwyd, ond ni a’u newidiwn yn gedrwydd. º
11Am hynny yr ARGLWYDD a ddyrchafa wrthwynebwyr Resin yn ei erbyn ef, ac a gysyllta ei elynion efynghyd; º
12Y Syriaid o’r blaen, a’r Ph’listiaid hefyd o’r ôl: a hwy a ysant Israel yn safnrhwth. Er hyn i gyd ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig. º
13A’r bobl ni ddychwelant at yr hwn a’u trawodd, ac ni cheisiant AR¬GLWYDD y ISuoedd. º
14Am hynny y tyr yr ARGLWYDD oddi with Israel ben a chynffon, cangen a brwyr-cn, yn yr un dydd. º
15Yr hcnwr a’r anrhydeddas yw y pen: a’r proffwyd sydd yn dysgu celwyddi-efe yw y gynffon. º
16Canys cyfarwyddwyr y bobl hyn sydd yn peri iddynt gyfeiliorni, a Dyncwyd y rhai a gyfarwyddir ganddynt. º
17Am hynny nid ymlawenha yr AR¬GLWYDD yn eu gwŷr ieuainc bwy, ac with eu hamddifaid a’u gweddwon ni thosturia: canys pob un ohorynt sydd ragrithiwr a drygionus, a phob genau yn traethu ynfydrwydd. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig. º
18Oherwydd anwiredd a lysg fel tân; y mieri a’r drain a ysa efe, ac a gynnau yn nrysni y coed; a hwy a ddyrchafant fel ymddyrchafiad mwg. º
19Gan ddigofaint ARGLWYDD y liuoedd y tywylla y ddaear, ac y bydd y bobl fel ymborth tân: nid eiriach neb ei frawd. º
20Ac efe a gipia ar y llaw ddeau, ac a newyna; bwyty hefyd ar y llaw aswy, ac nis digonir hwynt: bwytânt bawb gig ei fraich ei hun: º
21Manasse, Effraim; ac Effraim, Manasse: hwythau ynghyd yn erbyn Jwda. Er hyn oll ni ddychwelodd ei lid ef, ond eto y mae ei law ef yn estynedig.