Llythyr Iago 3:17
Eithr y ddoethineb sydd oddi uchod, yn gyntaf pur ydyw, wedi hynny heddychlon, boneddigaidd, hawdd ei thrin, llawn trugaredd a ffrwythau da, diduedd, a diragrith.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
16Canys lle mae cenfigen ac ymryson, yno y mae terfysg, a phob gweithred ddrwg.
18A ffrwyth cyfiawnder a heuir mewn heddwch i’r rhai sydd yn gwneuthur heddwch.
Cross References
Exodus 36:2A Moses a alwodd Bezaleel ac Aholïab, a phob gwr celfydd, y rhoddasai yr Arglwydd gyfarwyddyd iddo; pob un yr hwn y dug ei galon ei hun ef i nesâu at y gwaith i’w weithio ef.
1 Kings 3:12Wele, gwneuthum yn ôl dy eiriau; wele, rhoddais i ti galon ddoeth a deallus, fel na bu dy fath o’th flaen, ac na chyfyd dy fath ar dy ôl.
1 Chronicles 22:9Wele, mab a enir i ti, efe a fydd ŵr Bbnydd, a mi a roddaf lonyddwch iddo ef gan ei holl elynion o amgylch: canys Solomon fydd ei enw ef, heddwch hefyd a thangnefedd a roddaf i Israel yn ei fldyddiau ef. º
Job 28:12Ond pa le y ceir doethineb? a pha le y mae trigle deall?
Job 28:28Ac wrth ddyn efe a ddywedodd, Wele, ofn yr Arglwydd, hynny ydyw doethineb; a chilio oddi wrth ddrwg, sydd ddeall.
Isaiah 2:4Ac efe a farna rhwng y cenhedloedd, ac a gerydda bobloedd lawer: a hwy a gurant eu cleddyfau yn sychau, a’u gwaywffyn yn bladuriau: ni chyfyd cenedl gleddyf yn erbyn cenedl, ac ni ddysgant ryfel mwyach.